Taflenni amser a Chardiau Amser 

Bydd y ffordd rydych chi'n cyflwyno taflenni amser yn newid yn fuan

Trwy Oracle Fusion, mae gennym swyddogaeth newydd sy'n caniatáu i staff y cyngor gyflwyno taflenni amser – gelwir hyn bellach yn Gardiau Amser yn Fusion.

Gallwch gyrchu’r swyddogaeth Cerdyn Amser o ddyfais gorfforaethol (e.e. gliniadur gwaith neu ffôn), trwy ddyfeisiau personol trwy Staffnet+, neu drwy'r ap symudol.

Yn effeithiol o 1 Tachwedd 2023, bydd rhaid i gydweithwyr yn Dysgu a Sgiliau, gan gynnwys ysgolion, cyflwyno pob cerdyn amser trwy Fusion. 

Gweler y fideos hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r swyddogaeth yma drwy'r dolenni canlynol:

Cardiau Amser Hunanwasanaeth Cyflogeion

Cardiau Amser Hunanwasanaeth Rheolwyr

I Reolwyr: Cofiwch wirio nad yw cardiau amser a gyflwynir yn Fusion wedi cael eu talu o'r blaen gan ddefnyddio'r broses bapur, ni fydd Fusion yn gwneud unrhyw wiriadau p’un a yw’r taliadau hyn wedi'u gwneud o'r blaen.

Am fwy o wybodaeth, ewch i Hyb Oracle Fusion neu cysylltwch â’ch Hyrwyddwr Fusion.