Yr Wythnos Gyda Rob

16 Ionawr 2023

Annwyl gydweithwyr,

Christmas Event

Byddwch wedi derbyn neges gan yr Arweinydd a minnau Ddydd Gwener ar y cynigion cychwynnol ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf. Roedd hyn yn lle fy neges diwedd wythnos arferol ond gyda chymaint yn mynd ymlaen ar hyn o bryd ro'n i'n dal eisiau crynhoi rhywfaint o newyddion yr wythnos diwethaf o bob rhan o'r Cyngor.

Efallai bod y Nadolig eisoes yn ymddangos fel atgof pell, ond nid yw'n rhy hwyr i dynnu sylw a dweud diolch i'r rhai a drefnodd ddigwyddiad gwych i staff yr Alpau ychydig cyn y diwrnod mawr. Roedd Christine Banfield, Joanne Lewis, Zoe Davies a Nick Jones i gyd yn allweddol yn y digwyddiad bwyd Nadolig lle cafodd ystod o hamperi a thyrcïod, pob un wedi ei roi gan y tîm rheoli a noddwyr eraill, eu rafflo a'u derbyn yn ddiolchgar gan staff o fewn y Gyfarwyddiaeth. Diolch yn fawr. Da iawn i bawb am drefnu menter mor wych.

Armed Forces Covenant and Award

Rwy'n falch bod cefnogi staff bob amser yn ganolog i'r ffordd yr ydym yn gweithio ac felly roedd yn wych gweld ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, tystiolaeth o'n hymrwymiad i gefnogi staff a thrigolion sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ar y mur yn y Swyddfeydd Dinesig yr wythnos ddiwethaf. Dadorchuddiwyd y ddogfen wedi ei fframio gan ein Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog, Abi Warburton ynghyd â'r Cynghorwyr Bronwen Brooks a'r Cynghorydd Eddie Williams.

Mae estyn allan i gymunedau yn rhan fawr o'n gwaith.  Hoffwn ddiolch i Linda a Caitlin yn ein tîm Cofrestru Etholiadol am waith ardderchog maen nhw wedi ei wneud yn y cyfeiriad yma. Ddiwedd y llynedd buont yn gweithio gyda Stephen Segal, mentor cyflogaeth ein Cymunedau am Waith yn y Fro, i gofrestru ffoaduriaid o'r rhyfel yn Wcráin a mannau eraill sydd bellach yn byw yn y Fro. Cynigiodd y tîm dalebau rhodd i'r rhai a gofrestrodd ac a helpodd i gofrestru eraill ac rwy'n gwybod bod un teulu wedi dweud eu bod mor ddiolchgar gan ei fod yn golygu y gallent brynu anrhegion Nadolig i'w plant.  Fe wnaethon nhw gofrestru 150 o bobl i gyd, llwyddiant mawr a gwaith pwysig a fydd yn gwneud i'r teuluoedd hyn deimlo mwy fyth o groeso yn y Fro.  Gwaith da. 

Mae gen i ofn fod gen i newyddion trist iawn i'w rannu hefyd.  Mae tri chydweithiwr annwyl iawn wedi marw yn ystod yr wythnosau diwethaf.  Cafwyd cyfraniadau enfawr gan Craig Phillips, Amanda Phillips, ac Elliot Pottinger, i'w timau a'r Cyngor yn eu ffyrdd eu hunain.  Byddant yn cael eu colli'n fawr gan eu ffrindiau a'u cydweithwyr yn y Fro.  Ar ran y Cyngor hoffwn gyfleu fy nghydymdeimladau dwysaf â'r rhai a fu'n gweithio gyda nhw a'u hanwyliaid.  Bydd newyddion fel hyn yn effeithio arnom i gyd mewn ffyrdd gwahanol ac mae'r gwasanaeth Care First ar gael 24/7 i unrhyw un sydd ei angen. 

staff planting trees at Porthkerry

Heddiw yw 'Llun Llwm' a gall Ionawr deimlo fel amser anodd am sawl rheswm ac felly mae ein Hyrwyddwyr Llesiant wedi trefnu sesiwn plannu coed yn Cosmeston er mwyn helpu i gael cydweithwyr allan i'r awyr iach. Yn wreiddiol wedi'i threfnu ar gyfer yr wythnos ddiwethaf bydd y sesiwn nawr yn cael ei chynnal Ddydd Mercher am 10am. Cysylltwch ag unrhyw un o'n pencampwyr os hoffech chi wybod mwy. 

Cafodd y sesiwn gyntaf ei chanslo oherwydd glaw trwm ac rwy'n siŵr na fydd yn newyddion i'r un ohonoch fod y glaw wedi parhau trwy gydol yr wythnos ddiwethaf ac i mewn i'r penwythnos.  Fel rhannau helaeth o Gymru cafodd y Fro ei tharo gan lifogydd.  Amharodd y tywydd yn ddifrifol ar ein rhwydwaith priffyrdd a rhai o'n hadeiladau. Nos Wener fe benderfynodd y tîm cynllunio brys i agor safle dosbarthu bagiau tywod yn Y Barri er mwyn galluogi'r trigolion hynny sydd fwyaf mewn perygl o weld llifogydd i amddiffyn eu cartrefi. Fel bob amser yn y sefyllfaoedd hyn roedd ein hymateb yn gyflym ac effeithiol ac mae'n siŵr y cadwyd llawer iawn o bobl a'u heiddo'n ddiogel. Hoffwn ddiolch i bawb a weithiodd mor gyflym ddiwedd yr wythnos ddiwethaf i wneud i hyn ddigwydd. 

Yn olaf, mae nifer y bobl sydd â'r ffliw ar gynnydd y gaeaf hwn, ac yn ogystal â chadw’n gilydd yn ddiogel, mae atal y lledaeniad hefyd yn bwysig i gadw ein gwasanaethau i redeg ar gapasiti llawn.  Gallwn ni i gyd chwarae ein rhan yn hyn trwy olchi dwylo a chadw draw oddi wrth eraill pan yn sâl.

Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich gwaith caled.  Byddaf yn ôl mewn cysylltiad Ddydd Gwener gyda diweddariad ar holl newyddion yr wythnos hon.

Diolch,

Rob.