Staffnet+ >
Neges gan yr Arweinydd ar Prif Weithredwr ar y gyllideb

Neges gan yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr ar y gyllideb
13 Ionawr 2023
Annwyl gydweithwyr,
Fel y gwyddoch, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar y gyllideb heddiw, wrth i ni ddechrau ar y cam cynllunio diweddaraf ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd yr adroddiad hwnnw’n cael ei ystyried gan y Cabinet ddydd Iau ac fe fydd cyfnod o bedair wythnos o ymgynghoriad cyhoeddus gyda thrigolion yn dilyn.
Drwy'r ymgynghoriad hwnnw, bydd cyfle i drigolion rannu eu barn ar gynigion, cyn iddynt gael eu rhoi gerbron Pwyllgorau Craffu a'u cwblhau mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ym mis Mawrth.
Mae proses gosod cyllideb 2023/24 yn profi'n arbennig o heriol wrth i'r Cyngor geisio mynd i'r afael â diffyg ariannol sylweddol.
Mae setliad uwch na'r hyn a ragwelwyd gan Lywodraeth Cymru wedi lleddfu'r pwysau, ond mae’n rhaid o hyd ddelio â diffyg o fwy na £9 miliwn.
Y gobaith yw y gellir pontio hyn gydag arbedion a defnydd gofalus o gronfeydd wrth gefn.
Bydd y cynnydd o 4.9 y cant sy’n cael ei awgrymu yn cael ei drafod ddydd Iau, pan fydd y Cabinet yn cael manylion cynllunio ariannol yr Awdurdod.
Mae disgwyl i'r cynnydd hwnnw fod yn debyg i'r rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol eraill Cymru neu'n is, a byddai'n golygu bod trigolion y Fro yn parhau i dalu llai na chost gyfartalog y Dreth Gyngor yng Nghymru.
Ond er yr hwb ariannol gan Lywodraeth Cymru, mae'r Awdurdod yn parhau mewn sefyllfa anodd.
Fel Awdurdodau Lleol eraill, busnesau ac unigolion, mae'r Cyngor wedi cael ei effeithio'n sylweddol gan yr argyfwng costau byw.
Mae amgylchedd economaidd anwadal wedi gweld prisiau ynni yn cynyddu ochr yn ochr â chwyddiant a chyfraddau llog yn cynyddu, ymhlith pwysau costau eraill.
Mae hynny'n rheswm allweddol tu ôl i sefyllfa bresennol y Cyngor, ac mae Aelodau a swyddogion yn gweithio'n galed i'w datrys.
Nid oes gennym unrhyw amheuaeth y byddant yn llwyddo yn y dasg honno, er bod rhai penderfyniadau anodd o'u blaenau wrth i'r Awdurdod ymdrechu i barhau i ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf i'w drigolion.
Bydd y Cabinet a'r Uwch Dîm Arwain yn parhau i chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o oresgyn yr heriau hyn a bydd barn y gymuned yn chwarae rhan allweddol wrth benderfynu ar y ffordd ymlaen.
Mae amddiffyn y gwasanaethau hanfodol y mae ein trigolion mwyaf agored i niwed yn dibynnu arnyn nhw o’r pwys mwyaf.
Mae darparu gofal cymdeithasol, cyfleusterau cymunedol a phrydau ysgol am ddim yn parhau i fod yn gwbl angenrheidiol.
Mae'r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i addewidion allweddol a thargedau ynghylch gwastraff ac ailgylchu, gofal cymdeithasol, addysg, tai, teithio llesol, mannau agored, buddsoddi mewn busnesau lleol a lliniaru effeithiau newid hinsawdd.
Byddwn yn parhau i adeiladu ac adnewyddu ysgolion a chynnal ein rhaglen adeiladu tai Cyngor, gan ddarparu eiddo o ansawdd uchel i rai o'n trigolion sydd â'r angen mwyaf.
Mae annog teithio llesol hefyd yn parhau'n flaenoriaeth wrth i ni weithio i gynyddu llwybrau cerdded a beicio ledled y sir. Mae'r amcan hwn yn cyd-fynd â'n hymrwymiad Prosiect Sero i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Rydym hefyd am fuddsoddi mewn cyfleusterau ar gyfer lles ein trigolion, gan gynnwys ein plant. Mae hyn yn cynnwys parciau ac ardaloedd chwarae, yn ogystal â'n hysgolion, ac ar yr un pryd helpu i greu swyddi lleol a pharhau â gwaith adfywio pwysig o fewn ein cymunedau.
Bydd angen i ni adolygu sut ry'n ni'n gwneud pethau i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau ac i wneud arbedion. Mae gennym hanes ardderchog o hyn, ar ôl cynnal Rhaglen Ail-lunio lwyddiannus ers blynyddoedd lawer. Y gwir yw, mae angen mwy o'r un peth arnom bellach ac mae angen yr un arloesedd a brwdfrydedd arnom i'n galluogi i barhau i drawsnewid yn y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau hanfodol.
Mae heriau o'n blaen, ond rydyn ni’n benderfynol o’u goresgyn. Rydym yn parhau'n hyderus y bydd y sefydliad hwn ac, yn hollbwysig, ein holl gydweithwyr, yn parhau i wneud y gorau i'r rhai sy'n dibynnu ar ein gwasanaethau.
Diolch unwaith eto am eich ymdrechion parhaus mewn amgylchiadau sydd yn aml yn heriol.
Mae'r ymrwymiad hwnnw'n cael ei werthfawrogi'n fawr.
Diolch yn fawr,
Lis a Rob.