Staffnet+ >
Cydweithwyr yn yr Alpau'n Cynnal Raffl Nadolig
Cydweithwyr yn yr Alpau’n Cynnal Raffl Nadolig

Y Nadolig hwn, dathlodd y tîm yn yr Alpau’r Nadolig drwy ddod at ei gilydd ar 21 Rhagfyr a chynnal raffl Nadolig i staff yn y Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.
Cafodd y digwyddiad ei greu a’i ariannu gan y tîm rheoli a hefyd gan rai noddwyr oedd yn fwy na pharod i gymryd rhan.
Cymerodd tua 208 o aelodau o staff ran yn y raffl ac aeth dros 35 o ymgeiswyr lwcus adref gyda hamperi bwyd yn llawn danteithion Nadoligaidd.
Roedd yr hamperi'n cynnwys amrywiaeth eang o eitemau bwyd er enghraifft poteli o ddiod, bocsys o siocled a thwrci.
Dywedodd y rheiny a aeth i’r digwyddiad ei fod wedi rhoi hwb mawr i forâl y staff cyn y Nadolig.
Cafodd pecynnau ychwanegol eu dosbarthu i rai staff hefyd i’w helpu yn ystod yr argyfwng costau byw.
Rydym am ddweud diolch yn fawr i Christine Banfield a Joanne Lewis am helpu i drefnu'r digwyddiad, i Zoe Davies am drefnu gostyngiadau ar yr hamperi a’r teganau, ac i Nick Jones am ei waith gyda'r pecynnau bwyd. Rydym hefyd am achub ar y cyfle i ddweud diolch i'r noddwyr o'r Garejis:
NTM GB Limited
Jason Mowforth Commercial Operators
Scarab Fayat
Mobile Tyre Company
C&K
Peter Ridley Waste Systems

