Yr Wythnos Gyda Rob

08 Rhagfyr 2023

Wales Climate Week 2023Annwyl gydweithwyr,

Yn fy neges yr wythnos diwethaf, soniais y byddai'r Cyngor yn cefnogi wythnos Hinsawdd Cymru o 04 – 08 Rhagfyr. Hoffwn ddechrau'r wythnos hon trwy eich cyfeirio chi i gyd tuag at ran gyntaf Prosiect Sero, ein casgliad dysgu newydd a lansiwyd ddoe.

Gall pob un ohonom ddysgu mwy am newid yn yr hinsawdd a gall gwneud hynny ein helpu ni i gyd i wneud dewisiadau mwy gwybodus yn y gwaith a thu hwnt. Mae'r modiwl cyntaf yn cyflwyno newid yn yr hinsawdd fel cysyniad a'r dystiolaeth y tu ôl iddo yn ogystal â gwybodaeth am fwyd a thrafnidiaeth gynaliadwy. Gallwch gael gafael arno nawr ar iDev a chofrestru ar gyfer y Caffi Dysgu os ydych eisiau bod y cyntaf i wybod pryd bydd y modiwlau nesaf yn cael eu lansio yn y Flwyddyn Newydd. Diolch i'n timau Polisi a DS a Dysgu am roi hyn at ei gilydd.

Christmas Swap Shop.png

Roedd Siop Gyfnewid Nadolig dydd Llun yn llwyddiant mawr, gyda mwy na 150 o eitemau o ddillad, teganau ac anrhegion eraill yn newid dwylo. Dyma enghraifft wych o syniad syml sy'n gwneud gwahaniaeth ymarferol. Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect newid hinsawdd a allai helpu i leihau ein hallyriadau neu gostau, yna mae ceisiadau yn dal ar agor ar gyfer rownd nesaf cronfa wrth gefn Prosiect Sero. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar yr hyn y gellid ei ystyried a sut i wneud cais ar StaffNet.

Bydd ymateb i'r argyfwng hinsawdd yn agwedd allweddol ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd y Cyngor sydd wedi'i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yr wythnos hon. Datblygwyd y CDLlN gan ein tîm polisi cynllunio. Bydd y cynllun yn helpu i lunio Bro Morgannwg am y 15 mlynedd nesaf ac mae'n bwysig bod cymaint o bobl â phosibl yn ymateb. Yr ymgynghoriad a lansiwyd yr wythnos hon yw'r cam diweddaraf mewn proses ymgysylltu helaeth a ddechreuodd y llynedd ac a fydd yn rhedeg trwy gydol 2024.

LDP WelshGall siarad yn uniongyrchol â phobl ar faterion pwysig ac emosiynol fod yn heriol ac felly roeddwn yn falch iawn o weld adborth yn gynharach yr wythnos hon gan un o'n cynghorwyr tref a chymuned yn canmol y sesiwn y cynhaliodd ein tîm cynllunio gyda nhw ddydd Mercher diwethaf. Ysgrifennodd y Cynghorydd Malcolm Wilson, o'r Bont-faen gyda Chyngor Tref Llanfleiddan, i ddiolch i Victoria Morgan, ein Prif Gynlluniwr a gweddill y tîm Polisi Cynllunio "am gyflwyniad proffesiynol a llawn gwybodaeth" ac yn fwy cyffredinol am y cyfle i gymryd rhan. Diolch yn fawr i Victoria a gweddill y tîm am yr holl waith hyd yma ar gynhyrchu'r CDLlN ac am ddatblygu strategaeth gyflawni sydd â chymaint o gyfleoedd i randdeiliaid ymgysylltu. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 14 Chwefror.

Mae dod o hyd i fwy o ffyrdd i alluogi preswylwyr i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a'r ffordd y caiff gwasanaethau lleol eu darparu yn un o'r ffyrdd y gallwn wella ein ffyrdd o weithio.  Mae galluogi ein preswylwyr i gymryd rhan yn y gwaith o lunio eu cymunedau eu hunain yn gynyddol bwysig ar adeg pan fo cyllidebau'n dynn ond hefyd ar adeg pan rydym eisiau trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a gwneud ein dinasyddion yn ganolog i’n gwaith.

HVW3

Mae rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc lunio'r hyn a wnawn yn ganolog i waith Gwasanaeth Ieuenctid y Fro. Mae'r tîm yn gwneud gwaith rhagorol ac felly nid oedd yn syndod clywed eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid arall.

Mae'r enwebiad ar gyfer prosiect Ei Llais Cymru lle bu'r tîm yn helpu merched rhwng 13 a 17 oed i godi ymwybyddiaeth o chwibanu amhriodol ac aflonyddu rhywiol ymhlith pobl ifanc. Gyda'i gilydd, dechreuon nhw ymgyrch #wedontfeelsafe. Aeth o nerth i nerth a chyflwynodd y merched dan sylw eu gwaith yn y Senedd yn gynharach eleni ac ym mis Ionawr bydd yn cael sylw mewn rhaglen ddogfen ar y teledu. Er mai'r bobl ifanc oedd o flaen y camera yn haeddiannol, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ac arweiniad ein gweithwyr ieuenctid. Hoffwn ddiolch i Alexandra Thomas a Michaela O'Neill yn arbennig, a chwaraeodd ran hanfodol yn llwyddiant Ei Llais Cymru, ac yn bwysicaf oll yn helpu menywod ifanc i deimlo'n ddiogel.

Trwy gydol yr wythnos hon rwyf wedi bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr arian sy’n cael ei godi a’r anrhegion sy'n dod i mewn ar gyfer Achos Siôn Corn cyn y dyddiad cau heddiw. Mae rhai o'r cyflawniadau a'r dyfeisgarwch a ddangoswyd gan ein timau wrth ddod o hyd i ffyrdd o helpu i sicrhau bod gan blant sy’n agored i niwed yn y Fro rywbeth i'w agor ar Ddydd Nadolig wedi bod yn rhyfeddol. Hoffwn sicrhau bod pawb sy'n cymryd rhan yn cael y clod y maent yn ei haeddu felly byddaf yn rhannu'r rhain i gyd yr wythnos nesaf unwaith y bydd yr ymgyrch wedi cau. Am y tro, hoffwn ddweud, diolch i haelioni Tîm y Fro, bod gennym stoc gynyddol o anrhegion ar hyn o bryd a mwy na £2000 mewn rhoddion arian parod. Gwaith da bawb! Ac er mai heddiw yw’r dyddiad cau swyddogol, os oes unrhyw un yn dal i geisio gwneud cyfraniad, mae un o gorachod Siôn Corn wedi dweud wrthyf y bydd y dudalen roddion ar-lein yn dal ar agor tan ddydd Llun.

Wrth edrych y tu hwnt i'r Nadolig ac i'r Flwyddyn Newydd, bydd y tîm Cofrestru Etholiadol yn lansio eu hymgyrch staffio ym mis Ionawr. Mae'r tîm yn chwilio am bobl awyddus a medrus i ymuno â'n rhestrau staffio fel ein bod yn barod i ymateb pe bai etholiad cyffredinol yn 2024.

Rydym yn chwilio am bobl i weithio yn ein gorsafoedd pleidleisio fel swyddogion llywyddu neu glercod pleidleisio, i gyfrif pleidleisiau yn y cyfrif, neu gymryd rhan cyn y diwrnod yn agor pleidleisiau post a dyletswyddau eraill. Mae staff y Cyngor yn derbyn tâl ychwanegol ac absenoldeb arbennig ar ddiwrnod y bleidlais ac mae angen hyfforddiant llawn. 

The learning cafe

Hefyd, mae amser o hyd i gofrestru ar gyfer sesiwn holi ac ateb arbennig ar gyllideb y Caffi Dysgu y bydd Tom Bowring, Matt Bowmer a finnau yn ei chynnal ddydd Mercher. Byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gan staff cyn cyhoeddi setliad dros dro Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol ar 19 Rhagfyr. Gallwch gyflwyno cwestiynau ymlaen llaw neu eu gofyn ar y diwrnod a byddwn yn annog unrhyw un a hoffai wybod mwy am y ffordd yr ydym yn paratoi i bennu ein cyllideb ar gyfer 2024/25, neu sydd â syniadau i'w rhannu, i ymuno â ni ar y diwrnod.

Yn olaf, hoffwn rannu newyddion am animeiddiad penigamp cael plant ifanc i symud yn yr ysgol sydd wedi cael ei dreialu yn y Fro fel rhan o'n gwaith partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Nod QuickChange yw ymgysylltu plant pedair i chwech oed mewn gweithgarwch corfforol dyddiol ac mae wedi cael ei dreialu mewn pum ysgol ledled y Fro a Chaerdydd. Roedd cymeriadau cartŵn lliwgar yn cael plant yn Ysgol Gynradd Pendeulwyn i symud bob dydd ac mae'r adborth gan staff a disgyblion wedi bod yn gadarnhaol iawn. Gallwch weld rhai o'r ymarferion yn y fideo byr a wnaed i arddangos y prosiect ac os ydych chi'n darllen hwn ar ôl diwrnod hir o eistedd yn yr un man, rhowch gynnig ar rai o'r symudiadau eich hun!

Diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon.  Gobeithio y cewch benwythnos gwych.  Diolch yn fawr i chi gyd.

Rob.