Staffnet+ >
Lansio Casgliad Dysgu Prosiect Sero
Lansio Casgliad Dysgu Prosiect Sero
Fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru 2023, mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn lansio rhan gyntaf ein casgliad dysgu Prosiect Sero

Prosiect Sero yw ymateb Cyngor Bro Morgannwg i’r argyfwng newid hinsawdd. Mae’n dwyn ynghyd yr ystod eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd, i leihau allyriadau carbon y Cyngor i sero-net erbyn 2030 ac i annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol.
Mae dysgu am newid yn yr hinsawdd yn hanfodol gan y bydd yn rhoi'r wybodaeth i chi ddeall ei gymhlethdodau ac yn eich grymuso i wneud dewisiadau gwybodus. Bydd yn ein helpu ni fel sefydliad a chi fel unigolyn i fabwysiadu arferion cynaliadwy, arbed costau a gwella lles. Yn y pen draw, bydd yn rhoi'r offer i chi gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy sydd o fudd i chi, eich teulu a chenedlaethau'r dyfodol.
Yn y lansiad cyntaf hwn, byddwch yn gallu dysgu am:
-
Newid Hinsawdd – beth ydyw? Beth yw’r dystiolaeth? Beth allwn ni ei wneud?
-
Teithio a Thrafnidiaeth – Dysgu am effaith gadarnhaol dewis dulliau teithio cynaliadwy.
-
Bwyd a Gwastraff Bwyd – Archwilio effaith cynhyrchu bwyd a gwastraff bwyd.
-
Yr Economi Gylchol – Dysgu sut y gall y ffordd yr ydym yn prynu, ailddefnyddio, ailgylchu a gwaredu eitemau gael effaith sylweddol.
Ar ddechrau 2024, byddwn yn lansio modiwlau mwy eang sy'n cwmpasu elfennau fel Arian a Chyllid, Diogelu ein Dyfrffyrdd, Prynwriaeth Ymwybodol a Byw'n Gynaliadwy.
Byddwn hefyd yn creu modiwl sy'n benodol i ardal Bro Morgannwg, ac yn cael mynediad at fodiwl bioamrywiaeth mwy eang
Gallwch gyrchu'r ystafell ddysgu ar iDev yma. I fod y cyntaf i wybod am yr holl newyddion sy'n gysylltiedig â Phrosiect Sero, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyfer y Caffi Dysgu yma