Yr Wythnos Gyda Rob

25 Tachwedd 2022

Lego Cymru bucket hats at Penarth Pavilion

Annwyl gydweithwyr,

Dechreuaf yr wythnos hon gan gyfeirio at gwpan y byd ac er gwaethaf y canlyniad siomedig iawn y bore 'ma, does dim modd peidio â theimlo angerdd ac emosiwn cefnogwyr Cymru.

Bydd llawer ohonoch wedi gweld ymdrechion ein cydweithiwr a chefnogwr ymroddedig Cymru, Richard Taylor wrth addurno'r swyddfeydd Treth Gyngor gyda baneri Cymru.

Gyda llawer o'n staff yn cefnogi Cymru, mae tudalen Staffnet+ wedi'i sefydlu i dynnu sylw at rai o'r ffyrdd y mae ein cydweithwyr yn nodi'r twrnamaint hanesyddol hwn.

Team Cymru Support - Council Tax Team

Os ydych chi neu'ch tîm yn cefnogi Cymru, anfonwch e-bost at web@valefoglamorgan.gov.uk gyda lluniau neu negeseuon i'w rhannu ar y dudalen.  C'mon Cymru!

Mae'r wythnos hon wedi bod mor brysur ag erioed yn y Fro ond rwy'n mynd i ddechrau gyda dau ddiweddariad ers dydd Gwener diwethaf.

Y noson honno, cynhaliwyd Digwyddiad Big Fresh Spirit 2022 ym Mhafiliwn Pier Penarth fel ffordd o bwyso a mesur effaith ac ymrwymiad y tîm Big Fresh dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac i ddiolch am bopeth maen nhw wedi'i wneud wrth gefnogi ein hysgolion, cymunedau a'r Fro yn gyffredinol. Ar yr un pryd, roedd yn gyfle i gydnabod cyfraniadau unigol rhagorol a dathlu llwyddiant y rhai a oedd wedi cwblhau hyfforddiant a chymwysterau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Big Fresh Spirit Event 2022

O ystyried y tîm y tu ôl iddo doedd dim syndod ei fod yn ddigwyddiad o'r radd flaenaf. Roedd modd i dros 100 o staff Big Fresh fynychu a gyda'i gilydd fe godon nhw £450 tuag at Fyddin yr Iachawdwriaeth. Ariannwyd noson y dathlu'n llawn diolch i gefnogaeth hael ein partneriaid a bydd yr holl elw o’r bar ar y noson nawr yn cael ei ail-fuddsoddi yn ein hysgolion.

Hoffwn ddiolch i bob aelod o dîm Big Fresh am bopeth maen nhw wedi'i gyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac am barhau i arwain eu sector gyda'u model busnes arloesol. Diolch yn fawr bawb. Gyda'r heriau ariannol sydd o'n blaenau bydd angen rhagor o ddulliau mwy arloesol fel hyn ar draws y sefydliad i sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ar gyfer ein trigolion a'n cymunedau.

Hoffwn hefyd roi clod arbennig i Rhys Jones o'n Gwasanaeth Ieuenctid a wirfoddolodd i helpu i reoli'r bar a'r lleoliad ac a chwaraeodd rôl enfawr i sicrhau fod popeth yn rhedeg yn llyfn. Iechyd da Rhys!

EFSM Certificate

Nid tîm Big Fresh oedd yr unig rai oedd yn dathlu'r penwythnos diwethaf. Roedd dydd Gwener yn nodi diwedd yr Wythnos Diogelu Genedlaethol a chynhaliwyd Gwobrau Diogelu blynyddol Caerdydd a'r Fro lle cipiodd tîm Prydau Ysgol am Ddim o Ddysgu a Sgiliau y wobr Ymrwymiad Rhagorol i Ddiogelu Plant. Mae’r tîm yn gwbl haeddiannol o'r gydnabyddiaeth ranbarthol hon o'i waith graenus. Gwaith da bawb!

Croesi bysedd am yr wythnos nesaf hon, oherwydd ddydd Mercher, bydd datblygiad ysgol newydd Southpoint yn y Rhws, ysgol ddi-garbon gyntaf Cymru, yn cystadlu yn erbyn cynlluniau eraill yng Ngwobrau Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol ledled y DU. Pob lwc.

Wales Climate Week 2022

Ynglŷn â’r thema newid yn yr hinsawdd, mi fyddwch chi, gobeithio, wedi gweld ein bod ni wedi cyhoeddi cyfres o erthyglau ar StaffNet+ i nodi Wythnos Hinsawdd Cymru. Mae pob un yn adolygu un o’r prosiectau a fydd yn ein helpu i gyflawni ein nodau sero net o dan Prosiect Sero.

Roedd y cyntaf yn egluro sut mae Helen Moses a'i thîm wedi helpu i sefydlu y Bwrdd Prosiect Sero, sy'n goruchwylio'r Cynllun Her Newid yn yr Hinsawdd, gan helpu i sicrhau bod ein hymdrechion yn cael eu huno a hoffwn groesawu ein Rheolwr Rhaglen Prosiect Sero newydd Susannah McWilliam i dîm y Fro, a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth yrru hyn ymlaen.

Vale of Glamorgan County Borough Council

Hoffwn ddiolch i Joanna, Lisa a Marcus am eu gwaith ar eu prosiectau nhw hefyd a oedd yn ffurfio'r darnau eraill o waith a amlygwyd yn y gyfres. Mae pob eitem yn werth ei darllen felly neilltuwch amser i ddarllen y cyfan os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Drwy wneud hynny fe gewch chi wybod sut mae'r Fro wedi cael ei chydnabod yn arweinydd yng Nghymru yn ddiweddar fel rhan o gynllun Every Mouthful Counts.

Fe fyddwch chi erbyn hyn gobeithio hefyd wedi gweld ein bod ni wedi lansio ein hymgyrch Achos Siôn Corn yr wythnos hon.

Yn gynharach eleni fe ddangoson ni rym, haelioni ac anhunanoldeb Tîm y Fro pan gododd ein hymgyrch Milltiroedd ar gyfer Wcráin filoedd o bunnoedd. Rydym nawr yn ceisio codi arian i'r rhai sy'n agosach at adref.

Santa's Cause

Mae'n ganlyniad trist i'r argyfwng costau byw y bydd mwy o blant nag erioed yn wynebu'r posibilrwydd o gael dim byd i agor ar ddydd Nadolig. Eleni yn y Fro gallai'r nifer yna fod cymaint â 1500.

Ers nifer o flynyddoedd mae ein tîm Gwasanaethau Plant wedi gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol i godi arian am anrhegion i'w rhoi i'r teuluoedd maen nhw'n eu cefnogi. Gyda'r angen yn fwy nag erioed mae cydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor wedi tynnu ynghyd eleni i ddatblygu cynllun codi arian i sicrhau na fydd yr un plentyn yn mynd heb ddim.

Rwy'n gwybod y bydd llawer o gydweithwyr yn poeni am gost eu Nadolig eu hunain ac nid oes disgwyl i unrhyw un gymryd rhan. Ond i'r rhai sy'n gallu rhoi rhywbeth, mae'r cyfle yno i wneud gwahaniaeth mawr i Nadolig teulu.

Mayors Christmas Card

Bydd mwy i ddod ar ymgyrch Achos Siôn Corn ac rwy'n edrych ymlaen at eich diweddaru gyda mwy o newyddion da am y gwahaniaeth rydyn ni'n gallu ei wneud.

Ar thema debyg mae cystadleuaeth cerdyn Nadolig y Maer wedi dychwelyd ar gyfer 2022 ac mae'n agored i egin artistiaid ifanc o ysgolion cynradd ar draws y Fro. Mae'r Maer yn gofyn i blant ysgol gyflwyno dyluniadau ar gyfer ei gerdyn Nadolig blynyddol fydd yn ei anfon at arweinwyr dinesig a phobl bwysig eraill ar gyfer Nadolig 2022. Bydd yr enillydd lwcus hefyd yn cael ei wahodd i gael te gyda'r Maer.

Os ydych chi'n adnabod unrhyw un fyddai’n hoff o gystadlu, gall gyflwyno ei ddyluniad ynghyd â'i enw, oedran, ysgol, a chyfeiriad cyswllt naill ai drwy'r post i Swyddfa'r Maer neu drwy e-bost at Mayor@valeofglamorgan.gov.uk. Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw dydd Mercher 30 Tachwedd.

Yn olaf, hoffwn wneud pob cydweithiwr yn ymwybodol fy mod yn cymryd rhan mewn sesiwn Hawl i Holi ddydd Mercher nesaf am 12:00pm. Fel bob amser, rwy'n hapus i gynnig ateb i unrhyw gwestiynau gan gydweithwyr. Gallwch gadw’ch lle ar-lein a chyflwyno unrhyw gwestiynau rhwng nawr a diwrnod y sesiwn. Os hoffech wylio'r sesiwn ond na allwch fynychu ddydd Mercher, cofrestrwch a byddwn yn cael anfon dolen i'r recordiad atoch cyn gynted ag y bydd yn fyw ar iDev.

Fel bob amser diolch am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.

Rob.