Helen Moses, Rheolwr Strategaeth a Phartneriaeth
Gweithiodd Helen a'r tîm Strategaeth a Phartneriaethau yn agos gyda chydweithwyr ar draws y Cyngor i ddatblygu'r Cynllun Her Hinsawdd yn 2021 a dod ag ystod o waith at ei gilydd fel rhan o Brosiect Sero.
Mae Helen wedi bod yn awyddus i sicrhau y gwneir cysylltiadau â Phrosiect Sero ar bob cyfle a bod yr angen i ymateb i'r argyfwng hinsawdd yn cael ei amlygu drwy weithgareddau'r Cyngor a'n gwaith ni drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Yn 2021 sefydlwyd Bwrdd Prosiect Sero newydd, wedi'i gadeirio gan y Prif Weithredwr ac yn dod ag uwch swyddogion â chyfrifoldeb am y 18 her o fewn y Cynllun Her Hinsawdd ynghyd.
Mae Helen wedi cefnogi gwaith y Bwrdd gan gynnwys cyflwyno adroddiadau cynnydd rheolaidd i'r Cabinet a’r Pwyllgor Chraffu a bu hefyd yn gweithio'n agos gyda'r tîm Cyfathrebu a'r Gwasanaeth Ieuenctid i ymgysylltu â'n trigolion.
Mae Helen yn falch o groesawu Susannah McWilliam i'r tîm Strategaeth a Phartneriaethau a fydd, fel Rheolwr Rhaglen newydd y Prosiect Sero, nawr yn gweithio gyda’r Bwrdd Prosiect Sero a chydweithwyr y Cyngor i gyflawni Prosiect Sero.
Susannah McWilliam – Project Zero Officer
Ymunodd Susannah â'r Cyngor yn ddiweddar fel Rheolwr y Rhaglen Prosiect Sero. Mae hi'n edrych ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd Prosiect Sero a chyda thimau ar draws y Cyngor y mae eu cynlluniau gwaith yn cyfrannu at gyflawni'r ymrwymiadau yn y Cynllun Her Newid yn yr Hinsawdd.
Mae Susannah yn dod â blynyddoedd o brofiad rheoli prosiectau cynaliadwy ledled y DU o'r sector elusennau. Mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr ar sefydliad amgylcheddol lleol ym Mhenarth, ac yn cadeirio'r grŵp Penarth Di-blastig.