Sefydlu system fwyd cynaliadwy yn y Fro

Mae Bwyd y Fro yn bartneriaeth o unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau sy'n gweithio gyda'i gilydd i greu system fwyd ffyniannus, iach a chynaliadwy ym Mro Morgannwg.

TMae ganddynt Siarter Bwyd ac maent wedi gosod y blaenoriaethau canlynol: 

  • Pryd da i bawb bob dydd
  • Busnesau bwyd lleol ffyniannus sy'n cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi
  • Meddwl yn fyd-eang, bwyta'n lleol

Yn ddiweddar, mae Bwyd y Fro wedi cael eu cydnabod am eu gwaith mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Sustain o’r enw “Every Mouthful Counts”. Mae Bro Morgannwg wedi sgorio yn y clwstwr uchaf yn y DU, dim ond 21 o gynghorau allan o bron i 200 a ddadansoddwyd sydd wedi eu cydnabod fel arweinwyr.

Fel rhan o'r adroddiad mae cwmni Big Fresh Catering wedi ei amlygu fel enghraifft o'r ymarfer gorau gyda'r adroddiad yn datgan,  “Enillion mawr: bod yn berchen ar eu cwmni masnachu eu hunain ac ail-fuddsoddi elw mewn ysgolion lleol.”

Yn ei flwyddyn gyntaf yn masnachu, ail-fuddsoddodd Big Fresh dros £500,000 yn ôl i ysgolion lleol.  Cafodd hyn ei ddefnyddio i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys clybiau brecwast a chlybiau gwaith cartref, dysgu disgyblion am iechyd a lles a chefnogi timau chwaraeon.  Yn ystod y flwyddyn hon mae'r buddsoddiad yn parhau gyda'i holl ysgolion yn derbyn grant o £5,000.  

Mae caffael hefyd wedi'i amlygu yn yr adroddiad, a chwmni Big Fresh yn cymryd camau i gaffael mwy o fwyd yn lleol, gan leihau ein milltiroedd bwyd, allyriadau a gwastraff bwyd. 

Food Vale More Than Food Hub LaunchBwyd Y Fro oedd yr ail safle yng Nghymru i dderbyn Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ym mis Mehefin 2022, i gydnabod y gwaith ar draws y sir wrth hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.

Mae gan Fro Morgannwg un o'r cyfraddau uchaf yng Nghymru o ailgylchu gwastraff bwyd hefyd.  

Dywedodd Tom Bowring, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, "Rydym am gefnogi ac eirioli dros systemau bwyd lleol (gan helpu trigolion i ddeall effaith dewisiadau bwyd ar yr amgylchedd). Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth fel rhan o Food Vale i newid ein ffyrdd o weithio a dylanwadu ar newid ymddygiad."

Mae bwyd yn ffurfio dros draean o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU.  Mae effeithiau newid hinsawdd i'w gweld yn barod trwy gynnydd mewn prisiau bwyd ac incwm ffermwyr, sy'n cyfrannu at yr argyfwng costau byw.