Adeiladu cynllun seilwaith gwyrdd 

'Seilwaith Gwyrdd yw'r rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol, mannaugwyrdd, afonydd a llynnoedd sy'n plethu a chysylltu pentrefi, trefi a dinasoedd.' - Sefydliad Tirlunio

Rydym yn y broses o baratoi cynllun Seilwaith Gwyrdd (SG), er mwyn sicrhau bod ein mannau agored gwyrdd yn lleihau ein hallyriadau carbon a gwella lles i'n trigolion a'n hymwelwyr cymaint â phosibl. 

I ddechrau'r daith hon, rydym wedi mapio ein mannau gwyrdd. Er mwyn datblygu strategaeth i wella a reoli ein seilwaith gwyrdd, mae angen i ni asesu'r hyn sydd gennym ar gael a sut rydym yn defnyddio'r mannau hyn ar hyn o bryd. 

GI Map Vale

Byddwn yn cynnal prosiect ymgysylltu wrth ddatblygu'r strategaeth seilwaith gwyrdd. Bydd hyn yn ein helpu i adnabod mannau cymunedol a ffyrdd arloesol o bosibl o ddefnyddio'r mannau hyn yn y dyfodol.

Un enghraifft o hyn yw datblygu tir segur i fod yn brosiect gardd gymunedol. Gwnaed hyn yn Gibbonsdown ac mae grwpiau cymunedol eraill wedi cysylltu â ni i fynd â'r syniad hwn yn ei flaen yn eu hardal leol nhw.  

Bydd ein hadran gynllunio yn gweithio ochr yn ochr â’r Gwasanaethau Cymdogaeth i gymryd y camau nesaf wrth ddatblygu cynllun SG.