Dywedwch wrthym sut rydych chi'n cefnogi Tîm Cymru!

Mae Cwpan y Byd 2022 wedi dechrau! Wrth i Gymru chwarae ei gêm gyntaf yn erbyn UDA ddydd Llun, roedd angerdd ac emosiwn cefnogwyr y genedl yn amlwg.

Gyda llawer o'n staff yn cefnogi Tîm Cymru ac yn dilyn ei gynnydd, rydyn ni am daflu goleuni ar rai o'n timau sy'n nodi'r twrnamaint hanesyddol hwn.

Finance Office Welsh flags

Yr wythnos diwethaf, gwnaeth Richard Taylor, Uwch Gynorthwy-ydd Refeniw a chefnogwr Cymru ymroddedig, addurno'r Swyddfeydd Cyllid gyda baneri Cymru.

Gofynnon ni iddo beth mae'r twrnamaint yn ei olygu iddo:

"Rwyf wedi bod yn aelod o'r hyn sydd nawr yn cael ei galw'n 'Wal Goch' ers 1984 pan es i i fy ngêm Cymru gyntaf ym Mharc Ninian lle llwyddodd Cymru i drechu Gwlad yr Iâ 2-1.

"Rwyf wedi gweld Cymru’n chwarae pêl-droed sawl gwaith dros y blynyddoedd, eu gwylio ym Mharc Ninian, yr hen Stadiwm Genedlaethol (Parc yr Arfau Caerdydd gynt), Stadiwm y Mileniwm/Principality ac yn y blynyddoedd diwethaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

"Gallaf gofio uchafbwyntiau fel Ryan Giggs yn sgorio ei gôl gyntaf dros Gymru yn erbyn Gwlad Belg ym mis Mawrth 1993, Craig Bellamy yn sgorio yn erbyn yr Eidal yn Hydref 2002 mewn buddugoliaeth 2-1 a Gareth Bale yn sgorio yn erbyn Gwlad Belg mewn buddugoliaeth 1-0 ym mis Mehefin 2015.

"Rwyf hefyd yn cofio'r adegau llai hapus, fel Yr Alban yn tynnu’n gyfartal yn hwyr yn y gêm ym mis Medi 1985 pan oedd Cymru ddwy funud o gêm ail-gyfle ar gyfer Cwpan y Byd 1986 yn erbyn Awstralia, Paul Bodin yn methu cic gosb yn erbyn Rwmania ym mis Tachwedd 1993 a Chymru'n colli 1-0 i Rwsia ym mis Tachwedd 2003.

"Mae llawer o gemau eraill yn aros yn y cof ond mae’r ffaith i fi deithio i Gaerdydd yn ystod fy arholiadau gradd terfynol ym Mhrifysgol Portsmouth, i wylio Cymru'n trechu'r Almaen 1-0 ym mis Mehefin 1991, yn brawf o fy nheyrngarwch i Gymru. Dychwelais drwy Reading dros nos i sefyll fy arholiad terfynol y prynhawn canlynol.

"Yn y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi mynychu gemau pêl-droed Cymru, rygbi Cymru a Rygbi Caerdydd gyda fy merch hynaf Hannah. Ar un achlysur aethon ni i gêm Rygbi Caerdydd a gêm bêl-droed Cymru yr un prynhawn, gan ruthro o Barc yr Arfau Caerdydd i Stadiwm Dinas Caerdydd gan mai dim ond 30 munud oedd rhwng y gemau ond doedden ni ddim am golli’r un ohonyn nhw." 

Os ydych chi neu'ch tîm yn cefnogi Cymru, rhowch wybod i ni sut drwy e-bostio web@valefoglamorgan.gov.uk.

Byddwn yn rhannu eich negeseuon a'ch lluniau ar y dudalen Staffnet+ hon.

Eich cefnogaeth