Yr Wythnos Gyda Rob
02 Rhagfyr 2022
Annwyl gydweithwyr,
Rhaid i mi ddechrau'r wythnos hon gyda newyddion trist iawn. Fel efallai i chi weld yn y sylw yn y wasg heddiw, yn drasig iawn bu farw disgybl un o'n hysgolion yn gynharach yr wythnos hon ar ôl dal Strep A.
Mae'r ysgol a'r Cyngor wedi cynnig ein cydymdeimladau dwysaf i'r teulu ar yr adeg hynod anodd hon. Mae tîm y Cyngor o seicolegwyr addysg yn cynnig cymorth i staff a disgyblion yr ysgol ar hyn o bryd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi cyngor i rieni lle bo hynny'n briodol. Mae'n annhebygol y bydd disgyblion eraill yn cael eu heffeithio gan y salwch ac mae symptomau difrifol yn hynod o brin. Fodd bynnag, dylid cofio bob amser bod rhagofalon synhwyrol fel golchi dwylo'n rheolaidd a pheidio â mynychu'r ysgol pan yn sâl yn gallu lleihau'r risg rhag pob math o haint.
Gall digwyddiadau fel hyn effeithio arnom i gyd, hyd yn oed os nad oes gennym gysylltiad uniongyrchol â'r ysgol. Mae ein gwasanaeth Gofal yn Gyntaf ar gael 24/7 i unrhyw un sydd angen cymorth.
Mewn materion eraill yr wythnos hon mae ein timau wedi creu argraff unwaith eto ar y llwyfan cenedlaethol. Hoffwn yn gyntaf longyfarch Sonia Hutchings a Jason Horton a enillodd Wobr y Beirniaid ar Raglen Ddysgu Dadansoddeg Cymru Gyfan 2022 gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Roedd y wobr yn gydnabyddiaeth o'u gwaith i ystyried effaith yr argyfwng costau byw ar ein Gweithlu Gofal Cymdeithasol. Rwy'n cael arddeall bod y beirniaid o'r farn bod eu cyflwyniad yn rhagorol, yn rhoi cipolwg sy'n ysgogi'r meddwl ar yr heriau sy'n wynebu ein gweithwyr gofal. Darn o waith gwerthfawr iawn. Gwaith da y ddau ohonoch.
Nos Fercher enillodd Ysgol Gynradd Trwyn y De y wobr am Ragoriaeth mewn Cynllunio ar gyfer Iechyd a Llesiant yng Ngwobrau'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol am Ragoriaeth Cynllunio. Mae'r gwobrau'n dathlu cynlluniau, prosiectau a phobl ragorol sy'n dangos grym cynllunio.
Yn y seremoni, disgrifiodd y beirniaid y prosiect hwn fel esiampl i ysgolion, gan helpu i bennu ymagwedd cenedlaethol newydd yng Nghymru. Cymeradwyon nhw arweinyddiaeth y Cyngor yn darparu ysgol gynradd carbon sero-net gyntaf Cymru a'i manteision i iechyd a lles disgyblion a'r gymuned ehangach.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o wobrau i'r cydweithwyr yn ein timau Lle a Dysgu a Sgiliau a fu’n gyfrifol am Trwyn y De a dim llai nag y maen nhw'n ei haeddu. Llongyfarchiadau (unwaith eto) i bawb a fu’n rhan o hyn!
Yna ddoe fe enillodd y Cyngor, mewn partneriaeth â Chymdeithas Pentref Aberogwr, y wobr Gwerth Cymdeithasol yng Nghynhadledd Ystadau Cymru. Mae'r wobr hon ar gyfer prosiectau sy'n ymwneud â’r ystâd gyhoeddus sydd wedi cael effaith sylweddol ar y gymuned maen nhw'n ei gwasanaethu. Cafodd y bartneriaeth ei chanmol am ei chydweithrediad gydag Ystâd Dwnrhefn a Chymdeithas Cominwyr Ogwr i ddarparu neuadd bentref newydd.
Dwedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans: "Mae'r cais buddugol yn un sydd wedi cael ei yrru gan y gymuned, ond ni fyddai wedi digwydd heb gefnogaeth ac arbenigedd parhaus y Cyngor gydol y broses. Mae'n enghraifft wych o ymarfer da ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol – ac rwy'n siŵr y bydd Ystadau Cymru yn ei hychwanegu i'w llyfrgell."
Dyma enghraifft berffaith o sut mae'n timau yn gweithio i wireddu gweledigaeth y Cyngor o gefnogi cymunedau cryf â dyfodol disglair. Roedd ein tîm Eiddo yn ganolog i'r llwyddiant, ochr yn ochr â chydweithwyr eraill ar draws y Cyngor a hoffwn roi diolch mawr iddynt i gyd am eu gwaith caled parhaus.
Igloi wythnos lwyddiannus iawn fe ymunodd Abi Warburton, ein Swyddog Cyswllt Cyn-filwyr a Lluoedd Arfog, â'r Arweinydd mewn seremoni yng Nghastell Hensol i dderbyn gwobr Aur Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwr y Lluoedd Arfog ar ran y Cyngor. Mae’r wobr, i raddau helaeth, yn ganlyniad i waith Abi i gefnogi preswylwyr a staff sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Da iawn Abi.
Gyda'i gilydd mae'r pedair gwobr yn dangos ehangder ein gwaith, yr ystod o wasanaethau yr ydym yn eu darparu a'r gwahaniaeth y gall llywodraeth leol ei wneud i'n trigolion a'n cymunedau. Dylai derbyn cydnabyddiaeth ym meysydd gofal cymdeithasol, addysg, arweinyddiaeth gymunedol a chymorth cyn-filwyr i gyd yn yr un wythnos ein gwneud ni oll yn falch o'r effaith rydyn ni'n ei chael gyda'n gilydd.
Enghraifft wych arall o'n gwaith i gefnogi cymunedau yw ein rhaglen digwyddiadau'r Nadolig eleni a ddarperir gan ein tîm Marchnata a Thwristiaeth. Mae'r Ŵyl Oleuadau boblogaidd yn dychwelyd heno ac ond yn un o restr hir o ddigwyddiadau sydd ar agor i drigolion ac ymwelwyr â'r Fro ar gost isel neu am ddim. Gallwch weld be’ sy' 'mlaen ym Mro Morgannwg y Nadolig hwn ar wefan Ymweld â’r Fro .
Wrth edrych ymlaen at y Nadolig cytunwyd yng nghyfarfod yr UDA yr wythnos hon y byddwn yn cau ein cyfleusterau swyddfa ar gyfer gwasanaethau rheng flaen nad ydynt yn hanfodol o 4.30pm ar 23 Rhagfyr tan 9am ar 03 Ionawr.
Gyda'n gilydd rydym yn darparu llawer o wasanaethau ac rwy'n gwybod i lawer o gydweithwyr, nad yw cymryd gwyliau ychwanegol neu weithio gartref yn bosib. Bydd ein cydweithwyr rheng flaen gwerthfawr iawn a’r rhai sy'n gweithio i gefnogi'r gwasanaethau sy'n gweithredu 365 diwrnod y flwyddyn yn parhau i weithio'n galetach nag erioed dros gyfnod y Nadolig ac rwy'n hynod ddiolchgar am eu hymdrechion. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am drefniadau Gwaith y Nadolig ar Staffnet+.
Bydd llawer o'r cydweithwyr hyn yn gweithio i gefnogi rhai o'r plant a'r bobl ifanc hynny y bydd y Nadolig ychydig yn fwy disglair ar eu cyfer diolch i'n hymgyrch Achos Siôn Corn. Roeddwn yn hynod falch o weld y rhoddion yn pentyrru yn y Swyddfeydd Dinesig yr wythnos hon ac o glywed am rai o'r syniadau gwych sydd gan gydweithwyr i godi arian.
Does dim pwysau na disgwyliad o gwbl i gydweithwyr gymryd rhan yn yr ymgyrch hon ond i'r rhai sy'n gallu ac awydd cynnig rhywbeth, bydd anrhegion yn cael eu derbyn hyd at 16 Rhagfyr, felly mae amser o hyd i gymryd rhan.
I gloi, sylwais fod aelod gwerthfawr o dîm Arweinyddiaeth Strategol y Cyngor wedi pasio carreg filltir arbennig yn ddiweddar - 40 mlynedd o wasanaeth gyda'r Cyngor. Mae Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Gwasanaethau Tai, wedi dangos ymrwymiad hollol wych i wasanaeth cyhoeddus a dylai fod yn falch iawn o’i hun. Bydd Miles yn destun darn proffil yn gynnar yn y flwyddyn newydd yn adrodd hanes ei yrfa ac, wedi gweithio ysgwydd wrth ysgwydd ag ef am lawer ohono, rydw i’n edrych ymlaen at ei ddarllen. Llongyfarchiadau Miles, da iawn a diolch.
Fel bob amser rwy’n ddiolchgar am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr iawn.
Rob.