Trefniadau Gweithio dros y Nadolig

Rydym wedi penderfynu cau ein cyfleusterau swyddfa ar gyfer gwasanaethau rheng flaen nad ydynt yn hanfodol dros gyfnod yr Ŵyl. 

Mae hyn yn golygu y bydd y swyddfeydd ar gau o 4:30pm ddydd Gwener 23 Rhagfyr hyd at fore Mawrth 3 Ionawr. 

Bydd angen parhau i staffio gwasanaethau'r Cyngor ledled y sefydliad.

Fel bob amser, y Nadolig yw un o'r cyfnodau prysuraf i lawer o'n staff rheng flaen a gwasanaethau rheng flaen allweddol yn ein Cyfarwyddiaethau i gyd, fel ein darpariaeth gofal cymdeithasol, rheoli gwastraff, cynllunio argyfwng a gwasanaethau eraill yn y gymdogaeth, cymorth tai a Chyswllt Un Fro yn ogystal â meysydd eraill lle bydd trefniadau sydd eisoes wedi’u gwneud yn parhau.

Bydd angen i reolwyr ddefnyddio’u disgresiwn i sicrhau bod digon o staff ar gyfer anghenion y cyfnod, yr un fath â’r llynedd. 

Hefyd, yr un fath â’r llynedd,

  • gall y rhai sy'n gweithio mewn modd hybrid ar hyn o bryd ac sy'n dymuno gweithio dros y cyfnod pan fo’r swyddfeydd ar gau barhau i wneud hynny o bell - o'u cartrefi.
  • Gallai'r rhai sy'n dymuno manteisio ar egwyl estynedig gymryd gwyliau blynyddol dros y cyfnod dan sylw, naill ai'n llawn neu'n rhannol, yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth.

Gallai'r rhai a fyddai fel arfer yn dod i'r gwaith dros y cyfnod hwn ac nad oes ganddynt y cyfleusterau i weithio gartref ac nad ydynt am gymryd gwyliau drefnu cael adnoddau i weithio o gartref neu weithio mewn lleoliad sy'n parhau i fod yn hygyrch. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r trefniadau hyn, siaradwch â’ch rheolwr llinell i gychwyn.