Sêr Dadansoddeg Cymru Gyfan 

All Wales Analytics Learning Programme Judges AwardMae Sonia Hutchings a Jason Horton wedi ennill Gwobr y Beirniaid am eu gwaith ar Raglen Ddysgu Dadansoddeg Cymru Gyfan.

Fel rhan o'r rhaglen, mae Sonia a Jason wedi bod yn gweithio mewn timau i ddatblygu datrysiadau prawf cysyniad ar gyfer  achosion bywyd go iawn wedi’u cynnig gan gydweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Gofynnwyd iddynt ystyried effaith yr argyfwng costau byw ar ein gweithlu gofal cymdeithasol ac wedyn gyflwyno eu canfyddiadau i banel.

Dywedodd Sharon Miller, Rheolwr Gweithredol Gwybodaeth Busnes a Datblygu Gwasanaethau, "Cefais y pleser o fod yn y digwyddiad cyflwyno a gwobrau ar gyfer Rhaglen Ddysgu Dadansoddeg Cymru Gyfan 2022. Roedd cyflwyniad Sonia a Jason yn ardderchog, yn cynnig cipolwg oedd wir yn procio'r meddwl ar yr heriau sy'n wynebu ein gweithwyr gofal. 

"Rwy'n hynod falch o'u camp a'r gydnabyddiaeth a roddwyd iddynt ac rwy'n siŵr y bydd cydweithwyr eraill am eu llongyfarch hefyd ar eu llwyddiant."

Mae'r gwaith sydd wedi ei gwblhau fel rhan o'r rhaglen ddysgu hon wedi codi llawer o gwestiynau a gyda gwaith dadansoddi pellach gallai gael ei defnyddio i lywio'r gwaith o gynllunio gwasanaethau yn y dyfodol.

Os oes gan unrhyw un bryderon am effaith yr Argyfwng Costau Byw gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chymorth ar ein gwefan: Cymorth Costau Byw (bromorgannwg.gov.uk)

Yn ogystal, cynhaliwyd gweminar caffi dysgu ar reoli costau byw ar 8 Tachwedd, a gallwch wylio'r sesiwn a gweld deunyddiau cymorth ar iDev: Cost of Living Learning Cafe (learningpool.com)