Staffnet+ >
Cynhelir Sesiwn Ymwybyddiaeth y Menopos ar 25 Awst
Cynhelir Sesiwn Ymwybyddiaeth y Menopos ar 25 Awst
Cynhelir Sesiwn Ymwybyddiaeth y Menopos nesaf ddydd Iau, 25 Awst rhwng 10am ac 11am yn yr Ystafell Gorfforaethol, Swyddfeydd Dinesig.
Rydym wedi cyflwyno’r Menopos yn y Canllawiau Gwaith yn ddiweddar, gan gydnabod na ddylai'r menopos fod yn guddiedig nac yn dabŵ ac y dylai pob aelod o staff allu siarad yn agored ac am y digwyddiad bywyd naturiol hwn.
Gweithdrefnau Menopôs yn y Gwaith Cyngor Bro Morgannwg
Mae'r sesiynau'n gynhwysol ac mae croeso i bob aelod o staff fynychu, gan gynnwys cydweithwyr gwrywaidd ac iau. Rydym am i gymaint o gydweithwyr â phosibl ehangu eu gwybodaeth am y digwyddiad bywyd hwn y mae pob menyw yn ei brofi, a all effeithio ar eu hiechyd a'u lles corfforol, seicolegol ac emosiynol gartref ac yn y gweithle.
Os oes gennych ddiddordeb i alw heibio, cysylltwch â’r adran Iechyd Galwedigaethol er mwyn archebu lle.