Wythnos Pump Milltiroedd ar gyfer Wcráin

Ukraine - SN Banner

Wedi pum wythnos o godi arian, rydym yn gwneud yn dda!

Hyd yma, rydym wedi teithio 2,514.74 o filltiroedd gyda'n gilydd ar ein taith rithwir i'r Wcráin ac mae eich rhoddion a'ch ymdrechion codi arian wedi codi £1,614 hyd yn hyn. 

Mae gennym ni 1,035.26 milltir ar ôl i’w gwneud cyn i ni gyrraedd yn ôl yn y Barri.

Wrth i ni nesáu at wythnos olaf Milltiroedd ar gyfer Wcráin beth am gadw'r momentwm a chroesi'r llinell derfyn! 

Mae llawer ohonoch wedi gwneud y gorau o'r heulwen dros benwythnos y Pasg ac wedi manteisio ar y cyfle i gwblhau rhai milltiroedd.  

Os ydych chi wedi bod allan, cofiwch gyflwyno'ch milltiroedd – mae pob milltir yn cyfrif! 

Cofnodwch eich milltiroedd a gwnewch rodd drwy ein hyb Milltiroedd ar gyfer Wcráin. 

Lluniau o'ch taith

 

Cofiwch rannu eich ymdrechion a'r Tudalen Just Giving gyda ffrindiau a theulu!

Ochr yn ochr ag ymdrechion anhygoel ysgolion ledled y Fro i godi arian, bydd yr arian yr ydych wedi'i godi yn helpu i ddarparu cysgod, bwyd, dŵr a hanfodion eraill i'r rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel.