24 Medi, 2021

Annwyl Gydweithwyr, 

Gobeithio bod popeth yn iawn ar ddiwedd yr hyn sydd wedi bod yn wythnos brysur iawn i lawer ohonom.  

Hoffwn ddechrau diweddariad yr wythnos hon drwy gyfeirio at y pwysau hysbys iawn ar y sector Gofal Cartref ledled Cymru.  Mae'r sector dan bwysau mawr ac mae'r sefyllfa yma ym Mro Morgannwg yr un mor heriol, a dechreuaf gan ddweud diolch yn ddiffuant i bob aelod o’n tîm Gofal Cartref. 

Rhannodd Lance Carver, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, e-bost gyda mi ar ddechrau’r wythnos hon yr oedd wedi’i anfon at ei staff i ddiolch iddynt am eu hymdrechion yn yr hyn sydd wedi dod yn gyfnod heriol iawn i'r gwasanaeth gan nad oes digon o adnoddau gennym i ateb y nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd. Yn ei e-bost, dywedodd Lance,

'Er gwaethaf hyn, rwy'n clywed straeon cadarnhaol iawn am y gwaith gwych rydych yn ei wneud. Rwyf am i chi wybod bod pawb yn gwerthfawrogi eich gwaith ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymdrechion a'r gwyrthiau rydych yn eu cyflawni.'

Diolch Lance am rannu hyn a hoffwn adleisio dy sylwadau. Efallai bod rhai ohonoch wedi gwylio drama ddiweddar Channel 4, Help, gyda Jodie Comer a Stephen Graham. Dyma enghraifft amlwg arall o'r heriau sy'n wynebu gweithwyr gofal yn cael eu hamlygu drwy'r cyfryngau. Roeddwn am i'n staff wybod ein bod yn gweld pwysigrwydd y gwaith y maent yn ei wneud ac rydym yn ei werthfawrogi'n fawr. 

Yn ail, rhaid i mi ddiolch hefyd i Amy Rudman yn y Gwasanaethau Democrataidd ac Andrew Brain o TGCh, a'u timau ehangach, am eu cyfraniad a'u hymdrechion sylweddol o ran prosiect parhaus y Cyngor i ddatblygu a chyflwyno Datrysiad Cyfarfod Hybrid. Nid yn unig y bydd y datrysiad hwn yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol newydd ond bydd hefyd yn galluogi cyfarfodydd ffurfiol y Cyngor i gael eu cynnal a'u darlledu yn y dyfodol, gan alluogi pobl i gymryd rhan o bell. Rwy'n ymwybodol bod y prosiect hwn wedi cyflwyno sawl her gan greu’r angen i’r ddau dîm gydweithio’n agos i deilwra'r ateb i anghenion y Cyngor. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cyfraniad i’r prosiect hwn ac yn teimlo ei bod yn bwysig eich bod yn cael eich cydnabod, barn a rennir gan eich uwch gydweithwyr – Jeff Rees a Trevor Baker.  

Yr wythnos hon, cyfarfu’r Fforwm Ymgysylltu ac Arloesi Staff ac un o'r eitemau ar yr agenda oedd y Llyfr Diwylliant. Roeddwn yn falch o glywed y nifer calonogol o bobl sydd wedi darllen ac ailddarllen y Llyfr Diwylliant ar Staffnet+. Roeddwn hefyd yn falch o gyhoeddi enillydd y te prynhawn i ddau yng Nghaffi Big Fresh. Yn ystod y cyfarfod, dewisodd aelod o Fforwm Ymgysylltu ac Arloesi Staff, Nisha Shukla, yr enillydd lwcus ar hap, sef Helen Sweet.  Llongyfarchiadau i Helen a gobeithio y byddwch yn mwynhau eich danteithion! Byddwn yn annog unrhyw un nad yw wedi darllen tudalennau'r Llyfr Diwylliant eto i wneud hynny ac i gyflwyno ei straeon hefyd. Gan fod cymaint o bobl wedi cymryd rhan yn y raffl, rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd 20 o bobl eraill yn cael eu dewis ar hap i dderbyn talebau o £5 i'w defnyddio yn Big Fresh ym Mhafiliwn y Pier – cadwch lygad am gyhoeddiad ar yr enillwyr yr wythnos nesaf.  

Healthy-travel-wales-1Ddoe oedd Diwrnod Teithio Iach. Fel beiciwr brwd fy hun, roeddwn yn falch o weld cymaint o gefnogaeth i'r fenter hon. Fel sefydliad, rydym yn gyfrifol am ddarparu llwybrau teithio llesol ledled Bro Morgannwg. Gwnawn lawer i'w hyrwyddo i'n trigolion a nawr gyda lansiad ein hyb teithio iach StaffNet+, rwy’n gobeithio y gallwn argyhoeddi rhai ohonoch i feddwl am fath gwahanol o gymudo yn y dyfodol. Rhoddodd lansiad ddoe gyfle i mi feddwl am yr effaith fawr barhaus y mae gweithio gartref yn ei chael o ran llai o gerbydau ar y ffyrdd ac felly llai o allyriadau carbon. 

Ar thema gysylltiedig, gofynnwyd i mi hefyd rannu galwad am help drwy neges yr wythnos hon. Mae Prosiect Gwirfoddoli Gerddi Llanilltud Fawr yn gobeithio adeiladu dau dŷ gwydr; un ym mhrosiect newydd Grange Gardens ac un yn Crawshay House. Bydd hyn yn galluogi gwirfoddolwyr i dyfu pob math o lysiau a ffrwythau a fydd yn cael eu rhoi i'r gymuned leol. Caiff y tai gwydr eu gwneud o boteli plastig 2 litr; felly mae'r grŵp yn gofyn i chi roi unrhyw boteli plastig 2 litr gwag sydd gennych gartref o'r neilltu i’w rhoi i'r prosiect. Gellir naill ai fynd â nhw i Orsaf Gwasanaethau Brys Llanilltud Fawr ar Llanmaes Road neu gellir trefnu casgliadau ar gyfer rhoddion mawr. Cysylltwch â Rhiannon.cummings@south-wales.pnn.police.uk os hoffech drefnu casgliad. Diolch. 

Gan edrych ymlaen, byddwn yn cefnogi Wythnos Cynhwysiant yr wythnos nesaf. Yn un o'r cyflogwyr mwyaf ym Mro Morgannwg, mae'n hynod bwysig i ni fod yn gyflogwr cynhwysol a gwneud pobl eraill yn ymwybodol o’r ffaith hwnnw. Mae gennym y rhwydwaith staff Amrywiol a'r rhwydwaith LHDT+, GLAM, ac mae'r grwpiau hynny'n gweithio'n agos gyda'n hadran Adnoddau Dynol i sicrhau bod ein polisïau'n gynhwysol. Mae adlewyrchu amrywiaeth ein cymuned a bod yn sefydliad cynhwysol yn un o'm prif flaenoriaethau ac rwyf wedi cael rhaglen datblygu rheolwyr yr hydref hwn sy'n canolbwyntio ar y materion hyn yn wirioneddol ddiddorol ac yn addysgiadol ac mae hefyd wedi ein helpu i ddatblygu'r agenda hon. Cadwch lygad am fwy o wybodaeth am sut y byddwn yn cefnogi cynhwysiant yr wythnos nesaf. 

Caiff y sesiwn llesiant coetir nesaf ei chynnal Ddydd Gwener nesaf, 1 Hydref. Gwahoddir cydweithwyr i gwrdd â hyrwyddwyr llesiant yn y prif faes parcio (ger y caffi) am 12pm i helpu gyda gwaith clirio ym Mharc Gwledig Porthceri. 

Yn olaf, hoffwn ddirwyn y neges hon i ben gyda nodyn atgoffa i'r holl staff nad yw’r Coronafeirws wedi diflannu ac yn anffodus mae'n rhywbeth yr ydym yn dal i’w frwydro bob dydd. Mae nifer yr achosion positif yn cynyddu ledled Cymru a byddwn yn annog yr holl staff i gofio cymryd y rhagofalon angenrheidiol wrth fyw eu bywydau o ddydd i ddydd. Cofiwch wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, a chael prawf a hunanynysu os oes symptomau gennych. 

Cymerwch ofal, bawb. Diolch yn fawr,

Rob.