Digwyddiadau a gweithgareddau staff ar gyfer Diwrnod Teithio Llesol Cymru 2021

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi staff i ddewis mathau iachach a mwy cynaliadwy o drafnidiaeth. I nodi Diwrnod Teithio Llesol Cymru, rydym wedi lansio rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Mae'r Siarter Teithio Llesol yn cynnwys cyfres o ymrwymiadau y bydd y Cyngor yn eu gwneud dros 3 blynedd i gefnogi ein staff a'n hymwelwyr i gerdded a beicio mwy, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a newid i gerbydau trydan.

Gallwch ddod o hyd i'r rhestr lawn o'r hyn sydd ar gael isod:

Beicio

Bike-on-cycle-route

Sesiwn cynnal a chadw beiciau Dr Bike a rhoi cynnig ar e-feic

Galwch heibio i sesiwn Dr Bike yn y Swyddfeydd Dinesig ddydd Sadwrn, 02 Hydref rhwng 10am ac 1pm. Bydd dau e-feic ar y safle hefyd i chi roi cynnig arnynt. Mae hon yn sesiwn am ddim ac mae'n gyfle i ddysgu mwy am ofalu am eich beic.

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Bydd y cynllun Beicio i’r Gwaith yn ailddechrau ar 23 Medi am 6 wythnos. Menter gymell gan y Llywodraeth yw hon sy'n galluogi gweithwyr i arbed hyd at 42% ar gost beic newydd ac ategolion.

Hafan Beicio i'r Gwaith

Pecynnau trwsio beiciau

Rydym wedi gosod tri phecyn trwsio beiciau yn yr Alpau, y Swyddfeydd Dinesig a Swyddfeydd y Doc. Gallwch ofyn am y pecynnau i wneud atgyweiriadau brys i'ch beiciau.

Hyfforddiant hyder beicio a Hyrwyddwyr Beicio

Ar hyn o bryd rydym yn asesu diddordeb staff ar gyfer sesiwn hyfforddi hyder beiciau gyda Breeze neu Pedal Power. Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau beicio sylfaenol a thrin beiciau i'ch helpu i wella techneg a theimlo'n fwy hyderus.

Hoffem hefyd glywed eich barn am sefydlu rhwydwaith o Hyrwyddwyr Beicio. Yn debyg i'n Hyrwyddwyr eraill, byddai Hyrwyddwyr Beicio yn eiriolwyr dros feicio a'i fanteision i staff. Gallent rannu awgrymiadau, llwybrau a syniadau i annog mwy o bobl i feicio. Byddai'r rhwydwaith ar gyfer cefnogi ei gilydd, yn ogystal â chydweithwyr, i feicio'n hyderus.

Cysylltwch ag activetravel@valeofglamorgan.gov.uk os oes gennych ddiddordeb yn y naill fenter neu'r llall.

Cerdded

walkingsoutherndownvVariation3[1]

Mapiau cerdded a theithiau tywys

Ewch allan yn eich ardal leol neu yn ystod eich amser cinio ar un o'r teithiau tywys a'r mapiau cerdded niferus sydd ar gael. Fe welwch amrywiaeth o deithiau cerdded o wahanol hyd ac anhawster o bob rhan o'r Fro.

Gallwch hefyd gael mynediad i'r App AR Walks drwy'r dudalen Teithiau Cerdded Llesol.

Gostyngiadau ac Arolygon

Gostyngiad trên a bws

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymhellion ariannol i annog beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r rhain yn cynnwys benthyciad teithio di-log o hyd at £1,000 i dalu am gost tocynnau tymor a thaliadau milltiroedd beiciau.

Cymhellion teithio

OVOBikes

Yn ddiweddar, gosodwyd e-feiciau newydd gennym drwy Feiciau OVO. I nodi Diwrnod Teithio Llesol, rydym yn falch o gynnig tocynnau prawf am ddim ar sail y cyntaf i'r felin.

Cysylltwch ag activetravel@valeofglamorgan.gov.uk i gael gafael ar y disgownt.

Ymgynghoriad Rhwydwaith Teithio Llesol

Rhowch wybod i ni am eich syniadau ar ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) drafft. Edrychwch ar ein cynigion ar gyfer llwybrau sy'n bodoli eisoes, yn ogystal â'r rhai sydd wedi'u nodi ar gyfer gwella a llwybrau yn y dyfodol.

Dweud eich dweud

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ddiwrnod Teithio Llesol Cymru, ewch i'w gwefan.