Cycle to Work Banner 

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Mae Beicio i'r Gwaith yn gynllun gan y llywodraeth a allai eich helpu i arbed hyd at 42% ar gost beic ac offer newydd ar gyfer eich taith i'r gwaith.


 

Ynglŷn â'r Cynllun Beicio i'r Gwaith

Mae’r cynllun beicio i’r gwaith yn rhoi cyfle i chi gadw’n heini, arbed arian a gwella eich iechyd.

Rydym yn cynnal y Cynllun Beicio i'r Gwaith mewn partneriaeth â CycleSolutions. Cefnogir y cynllun gan Lywodraeth y DU i hybu beicio.

Mae'r cynllun Beicio i'r Gwaith yn ffordd wych i weithwyr wneud arbedion mawr ar feic newydd ac offer beicio, gan gadw'n heini a gwarchod yr amgylchedd ar eu ffordd i’r gwaith.

Cynllun llogi yw hwn, gyda chost y beic a'r offer yn cael eu cymryd o'ch cyflog misol cyn didynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Threth Incwm.

 

Pwy sy’n gymwys?

Mae’r rhan fwyaf o weithiwr yn gymwys i ddefnyddio'r cynllun. Uchafswm gwerth y pryniant yw £3,500 sy'n cael ei ad-dalu drwy ildio rhan o’ch cyflog dros 12 mis.

Nid yw gweithwyr asiantaeth yn gymwys ar gyfer y cynllun - os ydych yn gwneud cais trwy'r cynllun ac yn cael eich gwrthod, mae'n bosib y bydd gennych hawl i gael cerdyn gostyngiad o 12%. Os cewch eich gwrthod, byddwn yn rhoi eich enw i CycleSolutions, a fydd yn cysylltu â chi i drafod gostyngiadau a'r posibilrwydd o fenthyciad di-log.

Efallai y bydd eithriadau neu newidiadau ar gyfer y rhai sydd:

  • Yn derbyn yr Isafswm cyflog cenedlaethol/cyflog byw

  • Prentisiaethau

  • Ar gyfnodau prawf

  • Ar gontractau byrdymor

Sut i wneud cais

  1. Archebu ar-lein. Ewch i dudalen CycleSolutions ar wefan y Fro ac archebu eich beic a/neu offer. Bydd CycleSolutions yn eich ffonio i gadarnhau manylion eich archeb.
  2. Cymeradwyo eich archeb. Ar ôl i'ch archeb gael ei gwblhau, bydd CycleSolutions yn anfon cytundeb atoch i'w gymeradwyo. Byddwn hefyd yn cymeradwyo'r ddogfen hon, gan gadarnhau y byddwch yn llogi'r offer drwy gydol y cytundeb.

  3. Chwyldroi Eich Taith i’r Gwaith. Bydd eich beic yn cael ei ymgynnull a'i anfon i'r cyfeiriad a nodoch. Yna rydych yn rhydd i ddechrau defnyddio eich beic newydd sbon i feicio i'r gwaith!

  4. Ildio Cyflog. Ar ôl cymeradwyo, bydd y didyniadau yn cael eu cymryd o'ch cyflog drwy gydol cyfnod y cytundeb.

 

 

Opsiynau diwedd cynllun

Mae eich cynllun Beicio i'r Gwaith yn gytundeb rhyngoch chi, y Cyngor a CycleSolutions.

Gallwch barhau i ddefnyddio'ch beic ar ôl i’ch cytundeb ddod i ben drwy ddewis un o’r opsiynau diwedd cynllun isod:

  • Gallwch lofnodi cytundeb estynedig a pharhau i ddefnyddio'ch beic am ddim nes ei fod yn 6 oed. Bydd perchnogaeth o’r beic/offer yn cael ei throsglwyddo i chi’n awtomatig ar ddiwedd y cyfnod rhentu

  • Efallai y byddwch chi'n gallu prynu eich beic drwy dalu ei bris diweddaraf ar y farchnad fel y'i cyfrifir gan CThEM

  • Ar ddiwedd eich cyfnod llogi, gallwch ddychwelyd y beic/offer i CycleSolutions

Map Rhwydwaith Teithio Llesol

Rhaid i holl awdurdodau lleol Cymru gynhyrchu mapiau o rwydweithiau cerdded a beicio yn eu ardaloedd lleol, a adnabyddir fel Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl).

Mae canllaw defnyddwyr Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol yn egluro sut i gael mynediad at a defnyddio’r mapiau ar-lein.

Mae canllaw gwybodaeth gefndirol Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol yn esbonio Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (a sut i'w dehongli).