Mynnwch Lais. Crëwch Newid. Gwnewch Wahaniaeth - Ymunwch â Rhwydwaith Amrywiaeth y Staff!

Mae Rhwydwaith Amrywiaeth y Staff yn gam cadarnhaol i'n sefydliad o ran hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu ei gymuned a'i weithlu amrywiol.

Mae croeso i'r holl staff ymuno â'r rhwydwaith a chefnogi eu cenhadaeth i helpu'r Cyngor i ddod yn gyflogwr o ddewis i bobl o gymunedau amrywiol.

Yn rhan o'r genhadaeth hon, nod y grŵp yw:

  • Cael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y gweithle.
  • Codi ymwybyddiaeth gyffredinol o'i waith, a’i wneud yn weladwy.
  • Darparu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol.

Mae sefydlu'r rhwydwaith yn gam tuag at ddechrau'r sgwrs am gydraddoldeb hiliol yn y Cyngor mewn ffordd adeiladol ac agored a dangos y gall sgyrsiau anghyfforddus arwain at newid gwirioneddol.

I ddathlu lansiad ffurfiol y rhwydwaith, buom yn siarad â staff ac aelodau etholedig am bwysigrwydd cael rhwydwaith amrywiaeth.

Martine Coles Diverse Staff Network

Martine Coles, Cadeirydd:

"Mae'r rhwydwaith hwn yn rhoi hwb i gynnal momentwm yr agenda cydraddoldeb hiliol. Fel sefydliad, mae'n bwysig dangos ein bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb hiliol drwy weithredu ar faterion allweddol.

"Byddwn yn gweithio i gynghori'r Cyngor ar weithredu deddfwriaeth cydraddoldeb hiliol a dyletswyddau cyhoeddus ac i wella cyflogaeth a’r ddarpariaeth gwasanaethau ar gyfer cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig."

Laura Eddins

Laura Eddins - Hyrwyddwr Lles a Chefnogwr Amrywiaeth:

"Mae'n bwysig cydnabod bod lles a chynhwysiant staff yn mynd law yn llaw. Gall cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn gweithle wneud iddo berfformio’n well a bod yn fwy proffidiol, a gwella recriwtio a chyfraddau cynnal a datblygu talent.

"Mae angen i ni hefyd hyrwyddo dealltwriaeth well o faterion cydraddoldeb hiliol yn y Cyngor cyfan drwy hyfforddiant ac addysg."

Rob Thomas

Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr:

"Mae cydraddoldeb hiliol yn gyfrifoldeb ar bawb ac mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae o ran helpu i'w gyflawni. Mae croeso i bob aelod staff ymuno a chefnogi’r rhwydwaith."

Digwyddiad Adnewyddu

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad adnewyddu rhithwir ar Fedi 29 rhwng 2.00pm-3.30pm.

Os hoffech ddod yn aelod o Rwydwaith Amrywiaeth y Cyngor, llenwch ffurflen aelodaeth
 
Ffurlen Aelodaeth Arlein