Staffnet+ >
Your Wellbeing Eich Iechyd Survey
Arolwg Eich Lles / Eich Iechyd
Yn dilyn yr arolwg a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2020, hoffem i'r holl staff o bob rhan o'r Cyngor gwblhau’r arolwg canlynol sy'n canolbwyntio ar Eich Lles/Eich Iechyd a sut rydych chi'n teimlo bod y pandemig wedi effeithio arnoch chi.
Dydd Iau 18 Mawrth 2021
Hoffem ddefnyddio canlyniadau'r arolwg i lywio camau nesaf ein rhaglen les, i ystyried ein ffyrdd o weithio yn y dyfodol ac i sicrhau ein bod yn parhau i'ch cefnogi wrth i ni barhau i ddygymod â'r heriau sydd o'n blaenau.
I staff y Cyngor nad ydynt yn ymdrin â’r cyhoedd wyneb yn wyneb, sylwer mai’r cyfarwyddyd presennol, yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru, yw bod rhaid iddynt barhau i weithio gartref os oes modd.
Dylai staff sydd am weithio yn swyddfeydd y Cyngor drafod hyn â'u rheolwr llinell a rhaid iddynt gwblhau asesiad risg. Rydym yn deall y bydd amgylchiadau lle nad yw gweithio gartref yn bosibl a byddem yn ceisio cefnogi ein holl aelodau staff mewn achosion o’r fath. Mae gwybodaeth am hyn i'w gweld ar y dudalen Cyngor ar Goronafeirws ar Staffnet+.
Hoffem barhau i ddiolch i chi am eich holl ymdrechion a'ch cyfraniad dros y flwyddyn ddiwethaf. Dylech pob un ohonoch fod yn falch o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni fel sefydliad.
Mae'r holl ymatebion yn gwbl ddienw. Dylai’r arolwg hwn gymryd tua 5 munud i’w gwblhau.
Cwblhau’r arolwg Eich Lles / Eich Iechyd