Staffnet+ >
Neges gan y Rheolwr Gyfarwyddwr i'r holl staff

18 Mehefin, 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Gobeithio eich bod yn iawn ar ddiwedd wythnos heulog a chynnes yn y Fro.
Hoffwn ddechrau'r neges hon drwy longyfarch pawb a gafodd eu cydnabod ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Yn gyntaf, mae Melanie Haman, Cydlynydd Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y De, sydd wedi'i leoli ym Mro Morgannwg, wedi ennill Medal Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i gydnabod ei gwaith ledled De Cymru yn ystod y pandemig.
Yn ail, mae Linda Ruston, sydd bellach wedi ymddeol ond a arferai weithio fel Rheolwr Canolfan Ddydd New Horizons, hefyd wedi ennill Medal Ymerodraeth Brydeinig am ei gwasanaethau i ofal cymdeithasol. Mae Linda wedi gweithio a gwirfoddoli i wella bywydau pobl anabl yn y Barri ers 45 mlynedd! Mae cydweithwyr Linda wedi sôn am ei hymroddiad i'w gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig.
Yn olaf, dyfarnwyd MBE i Ofalwr Maeth o Fro Morgannwg, Sharon Thomas, am ei gwasanaethau i Ofal Maeth dros y 25 mlynedd diwethaf, ac yn arbennig am ei hymrwymiad yn ystod y pandemig.
Llongyfarchiadau i bob un ohonoch – mae’r gydnabyddiaeth rydych wedi ei derbyn yn gwbl haeddiannol. Da iawn i chi gyd.
Ar nodyn tebyg, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi lansio Gwobrau Sêr Gofal 2021. Maent am gydnabod gweithwyr gofal sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl dros y 15 mis diwethaf. Gallwch enwebu ar gyfer pedwar categori:
- Cymorth gofal cymdeithasol i oedolion
- Cymorth gofal cymdeithasol i bobl hŷn
- Cymorth gofal cymdeithasol i blant
- Gwasanaethau gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae'r beirniaid yn chwilio amdano ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Os hoffech enwebu rhywun am wobr, gweler y Canllawiau Staffnet+ ar sut i wneud hynny.
Rwy'n falch o allu cadarnhau hefyd y bydd llawer o staff sy'n gweithio yn ein cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn taliad ychwanegol y mis nesaf gan Lywodraeth Cymru. Mae'r taliad yn cydnabod yr hyn a ddisgrifiodd y Gweinidog Iechyd, yn ôl ym mis Mawrth, pan gyhoeddwyd y taliad, fel "eu cyfraniad eithriadol" ochr yn ochr â staff y GIG.
Mae'r taliad ychwanegol yn gwbl haeddiannol. Mae pawb sy'n gweithio i Fro Morgannwg wedi chwarae eu rhan i gefnogi trigolion ers mis Mawrth 2020 ac rwy'n dal yn hynod falch ein bod ni, fel Cyngor, wedi gallu cydnabod cyfraniad hanfodol bwysig y rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen gyda’n taliad ychwanegol ein hunain y llynedd.
Fodd bynnag, rwy'n sicr bod gweithio mewn sawl rôl ym maes Gofal Cymdeithasol a gweld effaith y pandemig yn uniongyrchol ar rai o'n pobl fwyaf agored i niwed wedi bod yn heriol iawn ac rwy'n falch iawn o weld ymdrechion ac ymroddiad staff gofal rheng flaen a'r proffesiwn Gofal Cymdeithasol ehangach yn cael eu cydnabod ar lefel genedlaethol.
Cyflwynodd ein Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Lance Carver, sylwadau cryf i Lywodraeth Cymru y dylid cynnig y taliad hwn i ragor o'n cydweithwyr. Nid oeddem yn gallu dylanwadu ar y penderfyniad terfynol gymaint ag y byddem wedi'i hoffi ond hoffwn sicrhau'r staff i gyd y bydd y Cyngor bob amser yn gweithio i sicrhau eu bod yn cael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith.
Gwasanaeth arall sydd wedi bod yn gweithio'n galed drwy gydol y pandemig yw ein tîm Cymunedau Gwledig Creadigol. Maent wedi lansio prosiect yn ddiweddar i gynnig mannau cydweithio i gymudwyr sy'n fwy lleol iddynt. Mae hwn yn brosiect diddorol iawn sydd wedi ei addasu oherwydd y pandemig ond sy'n dal i fod yn llwyddiant. Da iawn i Rhys a'r holl dîm fu’n ymwneud â sefydlu'r fenter hon.
Wrth edrych at y dyfodol, byddwn yn nodi Wythnos y Lluoedd Arfog yr wythnos nesaf, sy’n digwydd rhwng 21 a 27 Mehefin bob blwyddyn yn y DU. Ddydd Llun, bydd y Maer, y Cynghorydd Jayne Norman, yn arwain seremoni codi baner y lluoedd arfog ar gwrt blaen y Swyddfeydd Dinesig i nodi'r achlysur. Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau, bydd hwn yn ddigwyddiad caeedig. Fodd bynnag, i'r rhai sy'n dymuno gwylio, byddwn yn ffrydio'r digwyddiad yn fyw ar ein Tudalen Facebook, ewch i'r dudalen (facebook.com/valeofglamorgancouncil) am 10:00am ddydd Llun i weld y ffrwd fyw.
Bydd y Cyngor hefyd yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Windrush a fydd yn digwydd ar ddydd Mawrth 22 Mehefin. Diben y diwrnod yw dathlu cyfraniad Cenhedlaeth Windrush a'u disgynyddion, sydd wedi chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu'r cysyniad o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn Brydeinig yng nghymdeithas amlddiwylliannol heddiw. Bydd rhagor o wybodaeth am hyn ar StaffNet+ yr wythnos nesaf.
I gloi, mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi heddiw na fydd Llywodraeth Cymru yn llacio'r cyfyngiadau ymhellach o 21 Mehefin fel y rhagwelwyd, oherwydd cynnydd yn achosion amrywiolyn Delta y Coronafeirws. Yn hytrach, bydd oedi cyn llacio'r cyfyngiadau ymhellach a bydd y sefyllfa hon yn cael ei hadolygu eto ymhen 4 wythnos. Er bod y cynnydd yn y ffigurau yn dechrau o sylfaen fach iawn, mae'r cynnydd yn dal yn bryderus, yn enwedig o gofio bod tuedd ar i fyny mewn achosion ledled Cymru ers dros wythnos. Dylai hyn ein hatgoffa i gyd bod y feirws yn dal i fod gyda ni a’i bod yr un mor bwysig ag erioed dilyn y canllawiau iechyd cyhoeddus sydd ar waith.
Yr un newid a fydd yn cael ei weithredu o'r wythnos nesaf yw y bydd nifer y gwesteion sy'n cael mynychu priodasau nawr yn dibynnu ar faint y lleoliad. Mae hyn yn golygu y bydd dros 30 o westeion yn cael mynychu seremonïau dan do mewn lleoliadau mwy o faint. Rwy'n siŵr y bydd croeso i’r newid hwn gan lawer a fu’n ansicr a fyddai eu seremoni briodi’n digwydd yn ôl y bwriad yr haf hwn. Yn gynharach yr wythnos hon roeddwn wrth fy modd yn darllen e-bost yn diolch i un o'n cofrestryddion wrth gefn, Rachael Williams, am gynnal seremoni yn Gymraeg yn Fferm Rosedew yn Llanilltud Fawr dros benwythnos diweddar gŵyl y banc. Ysgrifennodd y cwpl hapus,
'Gwnaeth eich cynhesrwydd a'ch caredigrwydd wneud i ni deimlo’n esmwyth ein meddwl, gan sicrhau diwrnod arbennig iawn na fyddwn byth yn ei anghofio.'
Da iawn Rachael – roedd yn wych darllen canmoliaeth mor frwd a gobeithio y gallwn barhau i gynnig gwasanaeth unigryw a chofiadwy i gyplau sy'n priodi eleni.
Gobeithio y cewch i gyd benwythnos braf o orffwys. Cymerwch ofal.
Diolch yn fawr,
Rob.