Staffnet+ >
Aelod o staff yn cael ei gydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines
Aelod o staff yn cael ei gydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines
Mae Melanie Haman, Cydlynydd Fforwm Cadernid Lleol de Cymru, wedi derbyn medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei hymdrechion i fynd i'r afael â'r pandemig coronafeirws.
Dydd Llun 14 Mehefin, 2021
Gyda dros 10 mlynedd o brofiad mewn Cynllunio Brys, daeth Melanie yn Gydlynydd ardal Fforwm Cadernid Lleol De Cymru (FfCLlDC) yn 2018. Mae hon yn rôl sy'n cwmpasu holl ardal Heddlu De Cymru ac mae'n cynnwys 20 o ymatebwyr brys categori un.
Mae'r ymateb Covid-19 wedi dominyddu’r flwyddyn ddiwethaf hon, ac mae Melanie wedi bod yn rhagorol wrth gydlynu a threfnu’r Grŵp Cydlynu Strategol (SCG), y Grŵp Cydlynu Tactegol (TCG) a’r Grŵp Cydlynu Adferiad (RCG). Mae hi hefyd wedi bod yn cynrychioli FfCLlDC ar grŵp cymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae wedi bod yn gyfnod hynod heriol i'r holl sefydliadau sy'n ymwneud â Chynllunio Brys ond mae Melanie wedi camu i fyny ac wedi bod yn rhagorol yn y ffordd y mae wedi rheoli a gweinyddu ymateb ac adferiad FfCLlDC, gan adeiladu ymhellach ar yr ymateb amlasiantaethol.
Wrth fyfyrio ar waith Melanie dros y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd Rob Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr:
"Mae Melanie wedi gweithio'n ddiflino. Mae ganddi foeseg waith ragorol ac mae'n dod â chlod gwirioneddol iddi hi ei hun ac yn ased i ni yng Nghyngor Bro Morgannwg a rhanbarth de Cymru gyfan.
"Rwy’n falch iawn bod Melanie wedi cael ei hystyried a’i chydnabod, nid yn unig fel Rheolwr Gyfarwyddwr ein sefydliad, ond hefyd fel Cadeirydd Grŵp Cydlynu Adferiad FfCLlDC ac aelod o’r Grŵp Cydlynu Strategol.
“Mae trefniadaeth, effeithiolrwydd a brwdfrydedd Melanie wedi creu argraff fawr arnaf trwy gydol y pandemig. Mae hi’n hynod ymroddedig i wasanaeth cyhoeddus ac yn ennyn parch trwy ei hymrwymiad i ddyletswydd gyhoeddus.
"Law yn llaw â hyn, mae hi hefyd yn amlwg yn arbenigwr yn ei maes, yn hynod wybodus, ac mae'r wybodaeth hon, ynghyd â'i hymroddiad a'i brwdfrydedd, wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu i lywio de Cymru drwy'r argyfwng presennol."
Ychwanegodd Mr Andrew D. Valentine, Prif Uwcharolygydd Heddlu De Cymru:
"Ers ymgymryd â rôl Cadeirydd Grŵp Cydgysylltu Strategol Fforwm Cadernid Lleol De Cymru ym mis Mawrth 2020, rwyf wedi gweithio'n agos gyda Melanie Haman yn rhinwedd ei swydd fel Cydlynydd y Fforwm Cadernid Lleol ac rwyf wedi gwerthfawrogi'n fawr ei hymrwymiad a'i hymroddiad eithriadol i ddiogelu'r cyhoedd.
"Drwy gydol y pandemig, mae wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'r ymateb strategol a thactegol drwy gefnogi gweithgareddau hanfodol yn amrywio o brofion ar gyfer gweithwyr allweddol i drefniadau marwolaethau gormodol.
"Mae ei gwydnwch personol a'i pharodrwydd i helpu wastad wedi bod yn uwch na gofynion ei rôl. Er gwaethaf amseroedd heriol, mae dull cynnes ac agored Mrs Haman wedi helpu i symbylu ethos cydweithredol cryf ar draws y Fforwm Cadernid Lleol gan wella'r ymateb brys er budd cymunedau ledled de Cymru."
Wrth glywed y newyddion ei hun, dywedodd Melanie:
"Rwy’n teimlo’n hynod wylaidd o fod wedi derbyn y wobr hon. Rwy’n ystyried fy hun yn ffodus iawn yn rhanbarth de Cymru fy mod wedi fy amgylchynu gan gydweithwyr ar bob lefel sydd yn broffesiynol ac ymrwymedig ac mae hyn wedi gwneud fy ngwaith yn cydlynu’r ymateb gymaint yn haws. Ni fu pall ar eu brwdfrydedd, eu hegni, eu cefnogaeth na’u hymgysylltiad dros y 18 mis diwethaf ac rydym oll wedi gweithio’n ddiflino i gyrchu ein hunig nod sef gwarchod y cyhoedd."
Cyhoeddir rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines mewn rhifyn arbennig o'r Gazette, papur newydd swyddogol y Goron.