Staffnet+ >
Dyma'ch cyfle i enwebu eich Sêr Gofal!
Dyma’ch cyfle i enwebu eich Sêr Gofal!
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi lansio gwobrau Sêr Gofal 2021 i gydnabod gweithwyr gofal sydd wedi mynd y tu hwnt i’w cyfrifoldebau arferol i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn ystod y pandemig.
Mae ein cymunedau wedi wynebu heriau yn y flwyddyn ddiwethaf na welwyd eu tebyg o'r blaen. I'r rhai sy'n dibynnu ar ofal a chymorth a'r rhai a gyflogir i ofalu amdanynt, mae'r heriau hyn wedi bod yn eithriadol.
Hoffai'r Cyngor, ochr yn ochr â Gofal Cymdeithasol Cymru, gydnabod ymdrechion gwych ein gweithwyr gofal yn ystod y 15 mis diwethaf.
Gallwch enwebu ar gyfer pedwar categori:
• Cymorth gofal cymdeithasol i oedolion
• Cymorth gofal cymdeithasol i bobl hŷn
• Cymorth gofal cymdeithasol i blant
• Gwasanaethau gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar
Gallwch weld mwy o wybodaeth am yr hyn y mae'r beirniaid yn chwilio amdano ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gallwch enwebu unrhyw weithiwr gofal cyflogedig sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Rydym yn eich annog i enwebu unrhyw un yn eich tîm sy’n haeddu clod am ei waith.
Gallwch wneud hyn drwy lenwi'r ffurflen enwebu a’i dychwelyd i Lance Carver, neu'n uniongyrchol i Rob Jones (rajones@valeofglamorgan.gov.uk) Rheolwr Cyfathrebu'r Cyngor.
Gallent weithio mewn unrhyw rôl yn y sectorau cyhoeddus, annibynnol neu wirfoddol. Mae gennym bedwar categori cyffredinol sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o agweddau ar ofal yng Nghymru.
Y dyddiad cau i gyflwyno enwebiadau yw 5pm ar 23 Mehefin.
Ffurflen gais enwebu
Gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru