Staffnet+ >
Eich neges wythnosol gan y Rheolwr Gyfarwyddwr

30 Gorffennaf, 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Hoffwn ddechrau'r neges hon gyda diolch diffuant i Paula, am gamu i’r adwy yr wythnos diwethaf ac anfon crynodeb gwych o newyddion yr wythnos atoch i gyd yn fy absenoldeb. Cymerais seibiant yr oedd mawr ei angen o'r gwaith gan ymweld â Gogledd Cymru gyda fy nheulu. Byddwn yn argymell cerdded yng nghanol y golygfeydd mynyddig hardd i unrhyw un - mae'n arbennig o dda i'ch llesiant. Dychwelais i wythnos brysur o waith yn teimlo yn ffres ac wedi gorffwys.
Un o'r pethau cyntaf ar yr agenda ar gyfer yr wythnos hon oedd ymweliad â’n datblygiad Court Road sydd newydd ei gwblhau. Bydd un ar ddeg o fyngalos dros dro, sydd wedi'u hadeiladu'n bwrpasol er mwyn helpu pobl i gymryd eu cam cyntaf tuag at eu cartref eu hunain, yn croesawu eu tenantiaid cyntaf o'r wythnos nesaf ymlaen.
Mae'r byngalos ecogyfeillgar hyn o ansawdd uchel yn defnyddio ardaloedd o ddecin pren bach i greu cymuned. Maent yn rhoi lolfa, cegin, ystafell wely ac ystafell ymolchi eu hunain i'r preswylwyr. Yn bwysicaf oll, maent yn rhoi rhywbeth amhrisiadwy i'r rhai sy'n byw yn yr amgylchiadau mwyaf ansicr: urddas. Ni allwn ac ni ddylem fynd yn ôl at y sefyllfa a fodolai cyn Covid o ran pobl sy'n cael eu hunain yn ddigartref. Credaf yn daer, os gallwn ddarparu lloches i bobl ar anterth pandemig, y gallwn ac y dylem wneud popeth o fewn ein gallu i barhau i wneud hynny. ople at the height of a pandemic we can and should to do everything in our power to continue to do so.
Hoffwn longyfarch yr holl gydweithwyr sydd wedi bod yn ymwneud â chyflawni'r cynllun hwn yn gyflym ac o ansawdd mor uchel, ac rydym eisoes yn edrych ar ffyrdd y gallwn barhau i gyflwyno hyn ymhellach fel y gallwn ddarparu rhagor o lety dros dro y mae mawr ei angen.
Ddydd Llun, mewn cyfarfod llawn o'r Cyngor fe wnaethom gymryd tri cham pwysig iawn ymlaen fel sefydliad. Yn gyntaf, cymeradwywyd cynllun her Prosiect Sero newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn golygu y bydd y gwaith o gyflawni'r camau gweithredu a amlinellir i'n helpu i gyrraedd ein nod o allyriadau carbon sero net erbyn 2030 yn mynd rhagddo o ddifri, gan adeiladu ar ein record dda o gyflawni gwelliannau amgylcheddol.
Yn ail, cytunodd yr aelodau i ddatgan argyfwng natur a chymryd camau i ddiogelu bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ein sir. Bydd hyn yn golygu y bydd y Cyngor yn cymryd camau i sicrhau na fydd colled net o ran bioamrywiaeth yn y Fro a bydd yn rhan bwysig o'n gwaith ochr yn ochr â Phrosiect Sero.
Ac yn olaf, fel Cyngor, llofnodwyd datganiad gennym hefyd i fod yn Gyngor amrywiol sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni:
- Ddarparu ymrwymiad clir a chyhoeddus i wella amrywiaeth;
- Dangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb;
- Ystyried amrywio amseroedd cyfarfodydd y Cyngor a chytuno ar gyfnodau egwyl er mwyn cefnogi Cynghorwyr sydd ag ymrwymiadau eraill; a
- Gosod cynllun gweithredu ger bron o weithgarwch cyn etholiadau lleol 2022.
Rwy'n falch iawn o'r gwaith rydym yn ei wneud fel cyflogwr ac o'n rhwydweithiau LHDT+ a Lleiafrifoedd Ethnig i gefnogi cydweithwyr o wahanol gefndiroedd i gael effaith gadarnhaol yn y gweithle, codi ymwybyddiaeth o faterion a darparu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol i bawb. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn bod ein haelodau etholedig hefyd yn rhan o'r gwaith hwn ac yn cynrychioli'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Mae cydnabod ein staff hefyd yn bwysig iawn i ni fel sefydliad, felly rwy'n falch o allu talu teyrnged i nifer o gydweithwyr yr wythnos hon a diolch iddynt.
Mae ein Tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid wedi bod ar gael i gefnogi ein trigolion drwy gydol y pandemig. Mae'r tîm wedi cadw'r gwasanaeth i fynd bob dydd ac wedi dangos hyblygrwydd ac ymrwymiad wrth ddatblygu gwasanaethau newydd mewn ymateb i ofynion newidiol ein trigolion.
Un aelod o'r tîm yw Siân Wingar ac roeddwn yn falch o weld adborth ar ei hymagwedd gadarnhaol dros yr wythnos ddiwethaf pan aeth y tu hwnt i'r gofyn i gefnogi preswylydd oedrannus a ddaeth i dderbynfa’r Swyddfeydd Dinesig. Cynyddodd pryder Siân am les yr unigolyn hwn gan ei fod yn ymddangos yn wan a dryslyd. Cynigiodd Sian i’r preswylydd eistedd i lawr a chael diod o ddŵr, a wrthodwyd yn gwrtais. Felly, gwnaeth Siân yn siŵr wedyn fod y person hwn yn cyrraedd adref yn ddiogel gan wirio gyda pherthynas yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw i sicrhau fod y preswylydd yn iawn. Yn ôl Siân 'mae hyn i gyd yn rhan o'r swydd', ond dwi'n siŵr y byddwch chi i gyd yn cytuno bod hon yn stori sy'n cynhesu'r galon ac rwy'n ddiolchgar i Siân am fod mor garedig a gofalgar ac am fynd y tu hwnt i’r gofyn – diolch yn fawr Siân!
Ym mis Mehefin cawsom wahoddiad i enwebu cydweithwyr a oedd, yn ein barn ni, wedi mynd y tu hwnt i'r gofyn yn ystod y pandemig i gael eu cydnabod gan Gofal Cymdeithasol Cymru fel Sêr Gofal. Rwyf mor falch o allu dweud bod tri aelod o staff, allan o gyfanswm o 12 ledled Cymru, wedi eu dyfarnu yn Sêr Gofal Da iawn a llongyfarchiadau i Joanne Jones, Julia Sky a Jane Carter. Rydych chi i gyd yn sêr yn fy llygaid i! Rwy'n gwybod bod Julia wedi ennill ei chymhwyster ymarferydd gwaith chwarae uwch lefel 5 yn ddiweddar hefyd – mae'n edrych fel eich bod wedi cael 15 mis prysur ond llwyddiannus iawn – da iawn! Gallwch ddarllen mwy am ein sêr gofal a'u cyflawniadau ar Staffnet+.
Yn olaf, mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi na fydd angen i oedolion yng Nghymru sydd wedi eu brechu'n llawn hunanynysu o 7 Awst. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i blant o dan 18 oed. Mae'r penderfyniad hwn wedi'i wneud oherwydd y pwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Bydd gan hyn oblygiadau pwysig i lawer o'n timau a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn y mae'r penderfyniad yn ei olygu gweler wefan Llywodraeth Cymru.
Gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos pleserus, ac rwy'n gobeithio bod y neges hon wedi cyrraedd y safon a osodwyd gan Paula yr wythnos ddiwethaf! Peidiwch ag anghofio, os ydych chi'n chwilio am weithgareddau sy'n dda i deuluoedd, gwiriwch weithgareddau'r haf a'r rhaglen haf o hwyl ar ein gwefan.
Cymerwch ofal, diolch yn fawr.
Rob