Tri aelod o staff wedi'u henwi'n Sêr Gofal  

Mae Joanne Jones a Julia Sky o'n Tîm Byw'n Iach a Jane Carter o Dechrau'n Deg i gyd wedi cael eu cydnabod fel Sêr Gofal yng Ngwobrau Sêr Gofal Gofal Cymdeithasol Cymru

28 Gorffennaf, 2021

Julia PhotoMae Sêr Gofal yn fenter a grëwyd i dynnu sylw at y gweithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a wnaeth wahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl tra bod y wlad yng nghrafangau’r pandemig.

Ym mis Mehefin 2021, cawsom wahoddiad i enwebu'r gweithwyr gofal cyflogedig y teimlem y dylid eu cydnabod am eu cyfraniadau rhagorol dros y 15 mis diwethaf.

Jo PhotoEnwebwyd Jo (chwith) a Julia (dde) gan Karen Davies, Prif Swyddog Byw'n Iach, o dan y categori Gofal Plant, Chwarae a Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar, ac enwebwyd Jane Carter yn yr un categori gan Sue Davies, Uwch Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar.  

Enwebwyd cyfanswm o 120 o weithwyr gofal o bob rhan o Gymru. Yna, gwnaeth panel o feirniaid ddewis deuddeg o Sêr Gofal yr oeddent yn credu eu bod yn haeddu cydnabyddiaeth am y gwaith ysbrydoledig roeddent wedi'i wneud. Ac o'r deuddeg hynny, mae tri yn gweithio i Gyngor Bro Morgannwg.

Ar ôl derbyn y newyddion bod Jo a Julia wedi cael eu cydnabod, dywedodd Karen Davies:


"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Jo a Julia ar y llwyddiant hwn a diolch iddynt am eu hymroddiad parhaus i gefnogi plant a phobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd chwarae, yn enwedig y rhai sy'n elwa o gymorth ychwanegol.

"Mae Jo a Julia bellach yn brysur yn cydlynu amrywiaeth o weithgareddau chwarae sy'n cael eu darparu fel rhan o’r rhaglen Haf o Hwyl a Chlwb Gwyliau Teuluoedd yn Gyntaf. Mae eu gwaith caled a'u hymroddiad yn ddi-ben-draw."

Jane Carter Care StarAc ychwanegodd Sue Davies:
"Dwi wrth fy modd bod Jane wedi ennill y wobr hon a dwi mor falch ohoni. Hoffwn longyfarch Jane a diolch iddi am fod mor gefnogol a hyblyg dros y deunaw mis diwethaf.
"Mae Jane yn parhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol i deuluoedd ac mae'n gaffaeliad i'n tîm Blynyddoedd Cynnar".
Ychwanegodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, ei longyfarchiadau hefyd, gan ddweud:
"Mae hyn yn newyddion gwych – mae tair gwobr i Gyngor Bro Morgannwg yn dipyn o gamp. Llongyfarchiadau i Jo, Julia a Jane am y gydnabyddiaeth haeddiannol am eu cyfraniad hynod werthfawr drwy eu gwaith yn ystod y pandemig".
Gallwch ddarllen mwy am y Sêr Gofal hyn a'u gwaith ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.