Staffnet+ >
Weekly message from the Managing Director

15 Ionawr 2021
Annwyl Gydweithwyr,
Gobeithio bod y neges hon yn eich cael yn dda, ar ddiwedd wythnos arall sydd wedi ein gweld yn cyrraedd carreg filltir bwysig yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws.
Mae cyflwyno'r brechlyn COVID-19 wedi casglu momentwm ar draws y Fro a Chaerdydd yr wythnos hon. Yr oedd yn newyddion gwych gweld bod y brechiadau cyntaf mewn cartrefi gofal a redir gan y cyngor hefyd wedi dechrau'r wythnos hon. Cartref Porthceri yw un o'r lleoliadau gofal cyntaf lle mae'r holl staff a phreswylwyr wedi cael cynnig y brechlyn.
Ni allaf fynegi pa mor ddiolchgar ydwyf i'n holl staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen am eu gwaith dros y 10 mis diwethaf. Mae gofalu am ein trigolion mwyaf agored i niwed wedi bod yn flaenoriaeth erioed, ond mae digwyddiadau'r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos i ni pa mor hanfodol yw eich gwaith hollbwysig. Rwy'n falch o'n gweld yn cymryd cam ymlaen o ran gallu amddiffyn ein staff a'n preswylwyr rhag y feirws ofnadwy hwn.
Mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol bellach yn cyhoeddi'n ddyddiol ddiweddariadau ar y rhaglen frechu dorfol sy'n cael ei chyflwyno ar raddfa ddigynsail. Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r rhaglen barhau. Mae'n werth sôn hefyd ein bod ni fel Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â'r Bwrdd Iechyd ac yn ei gefnogi i gyflawni'r rhaglen hon yn ddiogel ac yn gyflym. Rhaid i'r dyhead fod i symud mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl er mwyn sicrhau ein bod yn cael y brechlyn wedi’i gyflwyno'n effeithlon.
Fodd bynnag, rhaid imi bwysleisio, hyd yn oed ar ôl cael y brechlyn, fod yn rhaid inni barhau i wneud yr holl bethau pwysig sy'n ein hamddiffyn ein hunain a'r bobl yr ydym yn gweithio gyda hwy. Parhewch i wisgo'r Cyfarpar Diogelu Personol gofynnol, golchwch neu ddefnyddiwch ddiheintydd ar eich dwylo'n rheolaidd a chynnal pellter cymdeithasol lle bynnag y bo modd. Mae hyn yn hollbwysig gan fod y sefyllfa yn y Fro yn parhau'n ddifrifol iawn.
Mae data diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos mai cyfradd yr achosion newydd ym Mro Morgannwg yw 403.5 fesul 100k dros y 7 diwrnod diwethaf. Mae'r gyfradd hon bellach yn rhoi'r Fro uwchben awdurdod cyfagos Caerdydd. Mae'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd o ganlyniad yn acíwt. Mae derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer Covid-19 yng Nghaerdydd a'r Fro yn uchel iawn, gyda derbyniadau dyddiol 50% yn uwch na'r uchafbwynt a welwyd yn y don gyntaf ac mae cyfraddau defnydd gwelyau Covid-19 66% yn uwch nag uchafbwynt y don gyntaf. Mae'r ffigurau hyn yn ddirdynnol, a rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon. Rhaid i bob un ohonom gadw at y cyfyngiadau sydd ar waith i'n hamddiffyn ni, ein cymunedau a'n teuluoedd.
Wrth i ni aros ar lefel rhybudd 4 dylem aros gartref gymaint â phosibl. Dim ond os na allwch wneud hynny o gartref, ac ar gyfer eitemau hanfodol fel siopa bwyd a meddyginiaethau y dylech adael eich cartref ar gyfer ymarfer corff, a ddylai ddechrau a gorffen gartref.
Cofiwch fod gennym lawer o bethau ar waith i'ch cefnogi gyda'ch lles. Rwy'n gwybod bod y cyfyngiadau presennol yn ei gwneud yn heriol ar adegau a hoffwn atgoffa staff bod ein Huwch Dîm Arwain yn gefnogol iawn ac y byddent yn eich annog i ddod o hyd i gydbwysedd yn eich diwrnod gwaith a'ch amser i gefnogi eich lles. Cymerwch ymarfer corff pan allwch a siaradwch â'ch rheolwr llinell os ydych yn cael trafferth gyda'ch llwyth gwaith.
Yng nghyfarfod ein Tîm Arwain Strategol yr wythnos hon, gwnaethom fyfyrio ar y gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf a'r heriau sy'n ein hwynebu wrth i ni fynd i 2021. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi ein cymunedau drwy'r pandemig. Mae heriau eraill i ni eu hwynebu hefyd fel Tîm y Fro. Caiff y rhain eu dwyn ynghyd yng ngham nesaf ein Rhaglen Ail-lunio ac maent yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, sut rydym yn gweithio i rymuso ein cymunedau fel gwaddol o Arwyr y Fro, a buddsoddiad pellach mewn ffyrdd digidol o weithio. Rwy'n edrych ymlaen at rannu mwy o fanylion gyda chi yn ystod yr wythnosau nesaf wrth i hyn ddatblygu.
Yn y cyfamser, gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos o orffwys. Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel.
Diolch yn fawr,
Rob