Wellbeing Jigsaw PiecesGofalu am eich Llesiant y Flwyddyn Newydd hon

Lansiwyd y fenter Your Wellbeing / Eich Iechyd at ddiwedd 2020 gyda'r nod o roi cefnogaeth i staff o ran eu llesiant yn ystod pandemig y Coronafeirws 

07 Ionawr 2021

Mae dechrau'r flwyddyn newydd dan glo yn deimlad brawychus i lawer ac mae'r hyrwyddwyr llesiant yn awyddus i sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi gyda'u llesiant ar yr adegau mwyaf heriol yn ystod y pandemig parhaus hwn. Mae'r gweithgareddau isod ar gael i'r staff gymryd rhan ynddynt ym mis Ionawr eleni.  Mae rhai sesiynau wedi'u trefnu yn ddiweddarach yn y dydd i ddarparu ar gyfer staff na allant gymryd amser allan ar gyfer eu llesiant yn ystod y dydd.

Yn ystod y sesiynau Ymwybyddiaeth Ofalgar byddwch yn dysgu sut i integreiddio Ymwybyddiaeth Ofalgar nid yn unig yn y gwaith ond yn eich amser hamdden a'ch bywyd cartref hefyd.  Byddwch yn dechrau sylwi pa mor synfyfyriol yw eich meddwl a gweld sut mae hyn yn arwain at straen, ofn a phryder. 

Sylwer y byddwch yn gallu archebu bloc 8 wythnos o'r sesiynau hyn fel eich bod yn derbyn nodyn atgoffa wythnosol, neu gallwch gofrestru ar gyfer sesiynau unigol yn seiliedig ar eich argaeledd (mae'r 4 wythnos gyntaf ar gael i'w harchebu nawr). 

Peidiwch ag anghofio cadw llygad ar dudalennau Your Wellbeing / Eich Iechyd  i gael rhagor o wybodaeth.