Iechyd Corfforol

Physical Wellbeing JigsawRydym oll yn ymwybodol o fanteision gweithgarwch corfforol ar ein hiechyd a'n lles.

 

Fodd bynnag, gyda bywydau prysur ac ymrwymiadau eraill, gall fod yn anodd canolbwyntio ar y rhain ac yn hawdd anghofio pa mor bwysig ydynt!

Yn fwy diweddar, mae pobl wedi bod yn manteisio ar y cyfle i ymarfer corff o gartref, ond mae llawer o bobl yn llai egnïol. 

Beth bynnag fo'ch sefyllfa, gall diffyg ymarfer corff fod â goblygiadau difrifol i'n hiechyd. Yn fwyaf arwyddocaol, ar ein hiechyd meddwl.

Y newyddion da yw, gallwn wneud gweithgarwch corfforol unrhyw le, boed yn ganolfan hamdden leol neu o'ch cartref eich hun ar-lein.

Mae Tîm Arweinyddiaeth Strategol y Cyngor wedi cytuno i gefnogi'r fenter 'Eich Lles', sy'n golygu y gall staff ymgymryd â gweithgareddau yn ystod amser gwaith i gefnogi eu hiechyd a'u lles.

Manteision gweithgarwch corfforol

  • Rheoli pwysau
  • Rheoli cyflyrau icheyd a chlefydau yn well
  • Manteision iechyd meddwl: mynd i'r afael â straen a chodi hwyliau
  • Rhoi mwy o egni i chi
  • Gwella ymddangosiad
  • Gwell cwsg
  • Cwrdd â phobl newydd a chynyddu rhyngweithio cymdeithasol

Cynnig Aelodaeth Gorfforaethol Legacy Leisure

Mae cynnig aelodaeth gorfforaethol o £36 y mis ar gael i'r holl staff (gan gynnwys staff ysgol). Mae'r cynnig ar gael yng Nghanolfannau Hamdden Legacy ym Mro Morgannwg yn unig. I gael y cynnig gall staff gyflwyno eu bathodyn neu slip cyflog yn eu canolfan hamdden leol wrth ymuno.

Dod o hyd i'ch canolfan hamdden leol | LeisureCentre.com

Beth galla’ i ei wneud?

Mae'n bwysig iawn gwneud amrywiaeth o ymarfer corff er mwyn osgoi anaf ailadroddus i barhau i herio’ch corff yn enwedig fel dechreuwr. Er enghraifft, mae rhedeg yn ymarfer cardiofasgwlaidd ardderchog (yn gwella gweithred eich calon a'ch ysgyfaint) ac yn mynd â ni allan i’r awyr iach. Er mwyn osgoi straen cyhyrau, fodd bynnag, dylem fod yn gwneud ymarferion ymwrthedd i gryfhau'r cyhyrau a'r craidd er mwyn cefnogi'r technegau rhedeg.

Mae'r gweithgareddau isod ar gael i'r holl staff heb unrhyw gost i'r unigolion sy'n cymryd rhan a gellir eu cwblhau yn ystod eich diwrnod gwaith.

  • Yoga - Nos Fawrth am 5.30pm

    Cynhelir dosbarthiadau yoga bob nos Fawrth am 5.30pm.

     

    Ymunwch â'r sesiwn fyw yr wythnos hon. Gallwch gael mynediad i’r sesiwn o 6pm ddydd Mawrth: 

     

     

    Sesiwn ioga byw - 25 Mehefin 2024

     

    Gallwch gael mynediad at recordiad o'r sesiwn olaf yn eich amser eich hun:     

     

    Sesiwn ioga wedi'i recordio - 12 Mehefin 2024

  • Gweithgareddau’r Tîm Atgyfeirio Ymarfer Corff

    Mae Tîm Byw'n Iach y Cyngor yn cynnig rhaglen atgyfeirio ymarfer corff. Gall pawb fanteisio arni. Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn helpu i gynnwys gweithgarwch corfforol ym mywydau'r rhai sy'n byw gyda phroblemau iechyd ym Mro Morgannwg.

     

    Adnoddau

     

    Mae'r tîm hefyd wedi datblygu fideos yn garedig i stafff gymryd rhan ynddynt ar adeg sy'n addas iddyn nhw, boed hynny yn ystod oriau gwaith neu fel arall.

     

    Sesiwn HIIT gyda Lance (Saesneg)

    Sesiwn HIIT Cymraeg gyda Elin

  • Rhedeg - O’r Soffa i 5k 

    I unrhyw un sydd am ddechrau rhedeg, mae nifer o grwpiau rhedeg lleol yn y Fro erbyn hyn. Mae llawer yn cynnig o’r Soffa i 5k rhithwir 


    Seriously Mad Runners
    Canllaw Rhedeg i Ddechreuwyr


    Mae rhai arweinwyr rhedeg cymwysedig yn y cyngor hefyd a fyddai'n gallu cynnig cyngor ac arweiniad. Cysylltwch â'r Hyrwyddwyr Llesiant - WellbeingChampions@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Enghreifftiau o raglen ymarfer corff gyffredinol ar gyfer dechreuwyr:

    Diwrnod 1: Taith redeg fer / loncian / cerdded ar gyflymder

    Diwrnod 2: Cryfder a Hyblygrwydd

    Diwrnod 3: Taith redeg fer / loncian / cerdded ar gyflymder

    Diwrnod 4: Cryfder a Hyblygrwydd

    Diwrnod 5: Taith redeg fer / loncian / cerdded ar gyflymder

    Diwrnod 6: Cryfder a Hyblygrwydd

    Dylech bob amser gynnwys o leiaf un diwrnod gorffwys

  • Cryfder a Hyblygrwydd 

    Gall hyn gynnwys:

    - pwysau rhydd

    - ymarferion pwysau corff (gwasgau byrfraich / sgwatiau / ac ati)

    - ioga

     

    Dyma ddolen i raglen ddechreuwyr ar gyfer cryfder a hyblygrwydd:

    Cynllun Wythnos i Wythnos

  • Ymarferion cynhwysol wedi'u addasu

    Mae'r Tîm Byw'n Iach hefyd wedi darparu rhai cysylltiadau ag ymarferion cynhwysol wedi'u haddasu ar gyfer ystod o alluoedd. 

     

    Gweithgareddau yn eistedd wedi'u haddasu 

    Ymarferion cryfder wrth eistedd 

    Gweithgareddau ar gyfer pobl â nam ar eu golwg

     

    Mae llu o fideos ar gael hefyd ar Sianel YouTube Disability Sport Wales.

     

    Fel arall, mae grŵp rhanbarthol Chwaraeon Anabledd yn cynnal rhai sesiynau byw.

     

     

    Pilates

    Zumba

    Ioga

    Ffitrwydd crefftau ymladd cymysg

     


    Mae'r sesiynau hyn i gyd am ddim. 

     

https://us02web.zoom.us/rec/share/tZe-8Qy7EdMBEsTasWKCRKUq93iPIfZjy7k4DUm5hGGl70nlxPc9edhcTyM4A1k.w8abR5mXQtS-K5AW

Pethau i’w hystyried  

Mae'r Prif Swyddog Meddygol yn cynghori dechrau ymarfer corff yn raddol a chynyddu dros amser. Dechreuwch drwy symud am 10 munud y dydd, gan ychwanegu 5 i 10 munud bob ychydig wythnosau nes i chi gyrraedd o leiaf 30 munud y dydd.  Please visit www.nhs.uk/live-well for advice.

Os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol, cysylltwch â'ch meddyg teulu cyn dechrau ar unrhyw raglenni.

Cyn dechrau ar unrhyw weithgaredd corfforol gwiriwch y camau canlynol:

  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi ddigon o le o'ch cwmpas heb ddim y gallwch chi faglu drosto (gan gynnwys anifeiliaid anwes!)
  • Cymerwch seibiannau rheolaidd i orffwys a hydradu.
  • Gweithio ar eich cyflymder eich hun
  • Os ydych chi'n cael anaf, yn mynd yn sâl neu'n teimlo'n wangalon yn ystod eich sesiwn gweithgaredd corfforol, dylech chi stopio ar unwaith, gorffwys a'r tro nesaf cymryd pethau ychydig yn arafach. Os oes angen, ceisiwch gyngor meddygol cyn ystyried parhau mewn unrhyw sesiynau diweddarach.
Activity for Adults CMO
Activity for Pregnant Women

Bwyd a Hwyliau drwy Mind.org

Gall gwella eich deiet helpu i wella eich hwyliau, cynyddu egni a’ch helpu i feddwl yn fwy clir. Mae'r fideo hwn yn rhoi awgrymiadau i chi i'ch helpu i archwilio'r berthynas rhwng yr hyn rydych chi'n ei fwyta a sut rydych chi'n teimlo.

Water is Life