Staffnet+ >
Cyflwyno'r brechlyn COVID-19 mewn cartrefi gofal
Mae'r broses o gyflwyno'r brechlyn COVID-19 mewn cartrefi gofal ym Mro Morgannwg wedi dechrau
Yn gynharach yr wythnos hon cafodd staff a thrigolion un o gartrefi'r Cyngor, Cartref Porthceri, eu brechu gan dîm brechiadau symudol y bwrdd iechyd.
14 Ionawr 2020
Mae 24 aelod o staff sy'n gofalu am breswylwyr yng Nghartref Porthceri bellach wedi cael eu brechu, ac roedd rhai wedi cael y brechiad yn y ganolfan frechu dorfol yn Sblot yn flaenorol.
Rhannodd un aelod o staff pa mor emosiynol yr oedden nhw o gyrraedd carreg filltir mor arwyddocaol.
Dywedodd Marijke Jenkins, Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Preswyl: "Rwyf wrth fy modd yn gweld staff a phreswylwyr yn derbyn y brechlyn COVID-19 gyda'i gilydd. Mae'r 10 mis diwethaf wedi bod mor heriol i bob un ohonom ac mae'n wych cael camau cadarnhaol iawn o'r diwedd i helpu ein trigolion."
Mae staff wedi gweithio'n ddiflino dros y 10 mis diwethaf i amddiffyn ein preswylwyr mwyaf agored i niwed. Er bod hwn yn garreg filltir allweddol yn ein brwydr yn erbyn y Coronafeirws, rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus.
Dylai pob un o'n staff rheng flaen, gan gynnwys y rhai sydd wedi cael eu brechu, barhau i ddilyn y canllawiau ar gyfer cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel drwy olchi neu ddiheintio eu dwylo'n rheolaidd, gwisgo'r Cyfarpar Diogelu Personol gofynnol a chynnal pellter cymdeithasol lle bynnag y bo modd.
Bydd cyflwyno'r brechlyn i aelodau staff gofal cymdeithasol a phreswylwyr yn parhau dros yr wythnosau nesaf, gyda'r nod o frechu'r holl staff iechyd a gofal cymdeithasol erbyn diwedd y mis.