13 Awst, 2021

Annwyl Gydweithwyr,

Gobeithio eich bod i gyd yn cadw’n iawn, ar ddiwedd yr wythnos gyntaf lle'r ydym wedi gweld llacio sylweddol ar y cyfyngiadau yng Nghymru.

Rwy'n gwybod bod hyn wedi ysgogi llawer o staff i ddechrau meddwl am eu trefniadau gweithio ac unrhyw ddychwelyd posibl i'r swyddfa. Mae gwaith yn mynd rhagddo'n dda ar ein cynlluniau ar gyfer trefniadau gofod swyddfeydd yn y dyfodol a gobeithiaf allu cynnig diweddariad llawn ym mis Medi. Yn y cyfamser, hoffwn atgoffa pawb bod safbwynt y Cyngor yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru y dylai pawb barhau i weithio gartref lle bynnag y bo modd.  Mae'r trefniadau interim a rannwyd a chi ym mis Gorffennaf yn dal i fod ar waith a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhain ar StaffNet+.

Mewn cam mawr arall yn ôl tuag at normalrwydd, rydym yr wythnos hon wedi lansio ein rhaglen gyntaf o ddigwyddiadau cyrchfannau i'w cynnal mewn dros flwyddyn. Law yn llaw â'r Ŵyl Flodau, y soniais amdani yr wythnos diwethaf, bydd cystadleuaeth castell tywod Big Beach Build a thwrnament pêl-foli traeth cenedlaethol hefyd yn denu ymwelwyr i'r Fro. Mae ein swyddog digwyddiadau, Sarah Jones, wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer y rhain ac roedd hyn ganddi i’w ddweud:  

“Rydym wedi ein cyffroi'n fawr gan y rhaglen ddigwyddiadau eleni, ac rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr a thrigolion y Fro yn mwynhau'r amrywiaeth a gynigir gennym. Mae’r digwyddiadau’n ffordd wych o fwynhau eich amser gyda theulu a ffrindiau wrth ddod yn gyfarwydd â chyrchfannau gwych ledled y Fro.”

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i visitthevale.com/digwyddiadau. Mae llawer yn digwydd drwy gydol cyfnod yr haf i bobl ei fwynhau'n ddiogel.  Diolch i Sarah a phawb a gymerodd ran o bob rhan o'r sefydliad yn y cam cyffrous hwn ymlaen i'r Cyngor, da iawn, rwy'n siŵr y bydd y digwyddiadau mor boblogaidd ag erioed. 

Penarth Food PodYr wythnos hon hefyd gwelwyd lansiad Pod Bwyd newydd a fydd yn caniatáu i drigolion Penarth godi bag o siopa am gost is. Mae tlodi bwyd wedi bod yn ffocws mawr drwy gydol y pandemig, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi menter arall ar gyfer rhai o'n cymunedau sydd ei hangen fwyaf.  Hoffwn ddiolch i dîm buddsoddi cymunedol yr adran dai am eu gwaith yn cydlynu'r prosiect hwn ynghyd â gwirfoddolwyr o Helping Hands a chymdeithas Preswylwyr STAR. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl yn yr ardal honno o'r Fro ac rwy'n falch o'r gwaith rydym yn ei wneud i helpu’r bobl sydd ei angen fwyaf.

Fel rhan o raglen Haf o Hwyl, rydym yn chwilio am artistiaid ifanc uchelgeisiol a hoffai arddangos eu gwaith mewn arddangosfa yn Oriel Celf Canolog ym mis Medi. Os ydych chi'n adnabod unrhyw un o dan 25 oed a hoffai gyflwyno darn o waith, gofynnwch iddyn nhw gysylltu ag artcentral@valeofglamorgan.gov.uk erbyn Dydd Llun 16 Awst. Yna gellir danfon gweithiau i'r oriel Ddydd Mercher 18 a Dydd Iau 19 Awst. Gweler ein tudalen we'r Oriel Celf Ganolog am fwy o wybodaeth. 

Rwy'n mynd i gau neges yr wythnos hon drwy edrych ymlaen at Ddydd Llun a dweud diolch ymlaen llaw i bawb a fydd yn gweithio i gefnogi lansiad llwyfan profiad cwsmeriaid newydd y Cyngor, GovService. Bydd y system newydd yn newid sut rydym yn ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid ac yn ein galluogi i gyflawni ein hamcanion o roi pob cwsmer yn gyntaf a darparu gwasanaethau sy'n wirioneddol canolbwyntio ar y dinesydd.  Mae lansiad Dydd Llun gyda'r Gwasanaethau Cymdogaeth yn benllanw misoedd o waith caled gan gydweithwyr yn yr adrannau Cysylltiadau Cwsmeriaid, TGCh, Gwella Busnes ac wrth gwrs y rhai sy'n gweithio yn y Gwasanaethau Cymdogaeth eu hunain. Diolch i bawb sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd mor gyflym.  

Gan obeithio y caiff pob un ohonoch benwythnos da. Cymerwch ofal.  

Diolch yn fawr,

Rob.