MD message header

Newidiadau i'r rheolau hunanynysu o 7 Awst

02 Awst, 2021 

Annwyl gydweithwyr,  

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Prif Weinidog newidiadau i'r rheolau hunanynysu a ddaw i rym yr wythnos hon. 

O 7 Awst, ni fydd yn ofynnol i oedolion sydd wedi eu brechu'n llawn hunanynysu mwyach os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos â rhywun â coronafeirws.  

Bydd plant a phobl ifanc o dan 18 oed hefyd yn cael eu heithrio rhag yr angen i hunanynysu os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos ag achos positif.  

Yn bwysig, rhaid i bawb sy'n profi'n bositif am coronafeirws neu sydd â symptomau barhau i ynysu am 10 diwrnod, boed wedi eu brechu ai peidio. 

Bydd ein cydweithwyr yng ngwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu  Caerdydd a'r Fro yn defnyddio Gwasanaeth Imiwneiddio Cymru i nodi oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn ac na fydd yn ofynnol mwyach iddynt hunanynysu os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos. 

O 7 Awst, yn hytrach na chyfarwyddo oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn i ynysu, bydd Swyddogion Olrhain Cysylltiadau t a chynghorwyr yn rhoi cyngor ac arweiniad iddynt ar sut i amddiffyn eu hunain ac aros yn ddiogel. 

Bydd mesurau diogelu yn parhau i fod ar waith i'r rhai sy'n gweithio gyda phobl agored i niwed, yn enwedig mewn lleoliadau staff iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd pawb a nodwyd fel cyswllt ag achos positif yn parhau i gael eu cynghori i gael prawf PCR ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth, boed wedi'u brechu'n llawn ai peidio. 

Bydd aelodau o'r cyhoedd yn cael cyngor cryf i beidio ag ymweld ag ysbytai a chartrefi gofal am 10 diwrnod. 

Mae'r newid yn arwydd o garreg filltir arall yn ein taith allan o bandemig Covid-19 ac mae i’w groesawu’n fawr.  Bydd y newidiadau'n helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau hanfodol a achosir gan y cynnydd cyflym diweddar mewn achosion o Covid, ein gwasanaethau ni a'r rhai a ddarperir gan ein partneriaid. 

Nid oes unrhyw newid i'r polisi cenedlaethol y dylai pawb weithio gartref lle bynnag y bo modd a dyma safbwynt y Cyngor o hyd. Ym mis Mehefin, anfonais neges at bob aelod o staff yn amlinellu trefniadau dros dro ar gyfer gweithio mewn swyddfa lle ystyrir bod hyn yn hanfodol. Mae'r canllawiau hyn i'w gweld ar StaffNet+.  

Mae atebion i gwestiynau cyffredin ynglŷn â'r newidiadau i'r rheolau ar hunanynysu hefyd wedi cyhoeddi ar Staffnet+.

Cofion,  
Rob Thomas.