Newidiadau i'r canllawiau ar gyfer hunanynysu 

O 7 Awst, 2021 

Fel y gwyddoch efallai, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi, ar 29 Gorffennaf 2021, newidiadau i'r canllawiau ar gyfer hunanynysu. Mae’r Cwestiynau Cyffredin isod wedi eu rhoi at ei gilydd fel canllaw defnyddiol i holl staff y Cyngor a dylid eu dilyn o 7 Awst 2021, pan fydd y newidiadau’n dod i rym – yr un diwrnod ag y disgwylir i Gymru symud i rybudd lefel sero, os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny.

  • Beth yw’r newidiadau?

    O 7 Awst, ni fydd yn ofynnol bellach i oedolion sydd wedi eu brechu'n llawn hunanynysu os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos â rhywun â coronafeirws. 

     

    Bydd plant a phobl ifanc o dan 18 oed hefyd yn cael eu heithrio rhag yr angen i hunanynysu os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos ag achos positif. 

     

     

  • Beth os ydw i wedi fy mrechu'n llawn ac yn profi'n bositif am Coronafeirws? 

    Does dim newid i hyn, rhaid i bawb sy'n profi'n bositif am coronafeirws barhau i ynysu am 10 diwrnod, boed wedi eu brechu ai peidio.

     

    Os bydd gennych symptomau Coronafeirws dylech ynysu a cheisio prawf PCR.

     

     

  • Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cael fy nodi fel cyswllt agos? 

    Bydd ein cydweithwyr yn y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu  yn defnyddio Gwasanaeth Imiwneiddio Cymru i nodi oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn ac na fydd yn ofynnol mwyach iddynt hunanynysu os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos.

     

    O 7 Awst, yn hytrach na chyfarwyddo oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn i ynysu, bydd Swyddogion Olrhain Cysylltiadau t a chynghorwyr yn rhoi cyngor ac arweiniad iddynt ar sut i amddiffyn eu hunain ac aros yn ddiogel.

     

    Bydd y gwasanaeth POD yn darparu gwasanaeth "rhybuddio a hysbysu" i bob oedolyn a dan 18 oed sydd wedi'u brechu'n llawn, y nodir eu bod yn gysylltiadau agos

     

     

     

     

  • Os caf fy adnabod fel cyswllt agos, a fydd yn rhaid i mi gwblhau prawf PCR neu LFT? 
    Bydd pawb a nodir fel cyswllt ag achos positif yn parhau i gael eu cynghori i gael prawf PCR ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth, boed wedi'u brechu'n llawn ai peidio.
  • Beth os yw fy rôl yn y Cyngor yn golygu gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed yn y gymuned?

    Bydd mesurau diogelu ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed, yn enwedig staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys asesiad risg ar gyfer staff sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal a Phrofion Llif Unffordd dyddiol. Bydd ein Tîm Iechyd a Diogelwch yn gweithio gyda'r timau hyn i sicrhau bod yr holl fesurau diogelu priodol yn cael eu rhoi ar waith wedi i’r canllawiau llawn ar y mesurau hyn gael eu rhannu.

     

    Bydd aelodau o'r cyhoedd yn cael cyngor cryf i beidio ag ymweld ag ysbytai a chartrefi gofal am 10 diwrnod.

     

     

  • Oes unrhyw newidiadau i'r canllawiau gweithio gartref? 

    Nac oes, mae hyn yn parhau i fod ar waith, i'r rhai sy'n gallu gweithio gartref dylech barhau i wneud hynny. I'r rhai sy'n dymuno dychwelyd i'r gwaith, mae canllawiau wedi'u paratoi gan y Cyngor i'ch cefnogi i weithio o'n swyddfeydd mewn ffordd sy'n ddiogel rhag Covid. 

     

    Crynodeb o weithio'n ddiogel yn y swyddfa

     

     

  • Os ydw i'n datblygu symptomau sut galla i archebu prawf? 

    Gellir archebu profion fel rhan o broses y gweithiwr allweddol drwy anfon enw, cyfeiriad, dyddiad geni a symptomau i gyfeiriad e-bost Profion Covid-19 . Cynhelir y profion gweithwyr allweddol hyn mewn canolfan gyrru drwodd yn ysbyty'r Eglwys Newydd. Gwneir y profion hyn gan nyrsys hyfforddedig.

     

    Gallwch hefyd wneud cais am brawf PCR drwy'r post neu fynychu canolfan brofi mewn lleoliad sy'n agosach at eich cartref drwy wefan y llywodraeth.

     

     

  • Ble galla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y newidiadau hyn? 

    Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth drwy wefan Llywodraeth Cymru.

     

    Gellir anfon ymholiadau hefyd i'n blwch post Ymholiadau Covid-19  mewn perthynas ag ymholiadau gwaith, asesiadau risg a chanllawiau Iechyd a Diogelwch.