Y Cynllun Cyflawni Blynyddol ar gyfer 2021/22 yn cael ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Cyngor llawn

Mae'r Cynllun Cyflawni Blynyddol yn nodi'r camau y byddwn yn eu rhoi ar waith dros y deuddeg mis nesaf a fydd yn cyfrannu at yr amcanion lles hirdymor a nodir yn y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2020-25.

30 Ebrill, 2021 

ADP cover WelshEin pedwar amcan lles yw:

  • Gweithio gyda, a thros ein cymunedau
  • Ategu dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy
  • Cynorthwyo pobl gartref ac yn eu cymuned 
  • Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd

Yna adlewyrchir yr ymrwymiadau sydd yn y Cynllun Cyflawni Blynyddol  mewn Cynlluniau Gwasanaeth ynghyd â thargedau ar gyfer gwella gwasanaethau. Mae'r rhain yn dangos sut y bydd gwahanol wasanaethau'r Cyngor yn cyfrannu at y gwaith o gyflawni'r pedwar Amcan Lles.

Eglurodd Tom Bowring, Pennaeth Polisi a Gwella Busnes, sut mae'r Cynllun Cyflawni Blynyddol wedi'i ddatblygu, 'Mae'r Cynllun Cyflawni Blynyddol yn adlewyrchu sut mae gwasanaethau wedi newid ac addasu dros y 12 mis diwethaf, tra'n parhau i ganolbwyntio ar ein nodau tymor hwy. Mae ein strategaeth adfer, ein hymateb parhaus i'r pandemig, adolygiadau perfformiad, uchelgeisiau'r Cyngor ac ymgynghoriadau cyhoeddus i gyd wedi cael eu hystyried wrth gwblhau'r Cynllun Cyflawni Blynyddol.

‘Rydym yn parhau’n uchelgeisiol yn ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac wedi ymrwymo i gyflawni’r Amcanion sydd yn y Cynllun Corfforaethol er mwyn cyflawni ein gweledigaeth o 'cymunedau cryf gyda dyfodol disglair.

'Mae'r Cynllun Cyflawni Blynyddol yn dwyn ynghyd waith pob tîm ar draws y Cyngor i ddangos sut y gallwn ni, drwy gydweithio, gymryd camau ar y cyd i wneud gwahaniaeth go iawn'.


Mae'r Cynllun eleni yn dangos yr uchelgais sydd gennym ar gyfer Bro Morgannwg ar amrywiaeth o faterion, megis mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, parhau i weithio mewn partneriaeth i ymateb i'r pandemig, datblygu ysgolion newydd dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, cefnogi plant a phobl ifanc a chydlynu gwasanaethau ymhellach i gefnogi oedolion sydd angen gofal ochr yn ochr ag ystod eang o weithgareddau eraill.

Gallwch ddarllen mwy am y camau y byddwn yn eu cymryd yn 2021/22 yn ein Cynllun Cyflawni Blynyddol.