Sut rydyn ni'n cefnogi staff yn ystod Covid19

Dydd Mercher, 22 Ebrill 2020

Ers cychwyn y pandemig Covid-19, mae'r Cyngor wedi cymryd nifer o gamau i ddiogelu cyflogeion, rhoi arweiniad a chymorth ychwanegol, a lle bynnag y bo'n bosibl, cynnig cydnabyddiaeth a diolch i'r staff am eu hymdrechion.  

Mewn llythyr at yr holl staff, mae Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, wedi rhoi trosolwg ar y camau sydd wedi'u cymryd ers cychwyn argyfwng Covid19 ddechrau mis Mawrth. Dyma ei gynnwys:

Annwyl Gydweithwyr,

Gan ein bod nawr yn chweched wythnos yr ymateb cyflym iawn i'r pandemig, roeddwn yn credu y gall fod yn ddefnyddiol cynnig crynodeb o'r mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith a'ch atgoffa o ble y gall yr holl staff gael cymorth a chefnogaeth. 

Mae pob swyddfa ac adeilad y Cyngor ar gau erbyn hyn i bawb ond y staff sy’n cyflawni rolau hanfodol na ellir eu gwneud o gartref. I'r rheiny sy'n dal i weithio yn un o'n hadeiladau, mae mesurau ymbellhau cymdeithasol llym wedi'u rhoi ar waith, darparwyd masgiau a diheintydd dwylo ac mae’r amserlenni glanhau dwysach a sefydlwyd ar ddechrau mis Mawrth yn dal yn weithredol. 

Mae'r rhan fwyaf o'r staff bellach yn ymgymryd â'u rolau arferol wrth weithio gartref. Erbyn hyn, dylai pawb yn y grŵp hwn fod wedi cael yr offer TGCh sydd ei angen i wneud hyn ac wedi cael help i'w sefydlu lle bu angen. Os ydych yn dal i gael problemau, dylech godi'r rhain gyda Desg Gymorth TGCh yn y lle cyntaf.  

Er bod rhai cydweithwyr eisoes wedi arfer gweithio o bell ar brydiau, mae gwneud hynny'n llawn amser a hefyd ymdopi â'r cyfrifoldebau sydd gennym ni i gyd y tu allan i'r gwaith yn her. I helpu gyda hyn, cyhoeddwyd amrywiaeth o ganllawiau ar gyfer gweithio'n effeithiol gartref ac edrych ar ôl eich iechyd a'ch lles wrth weithio o gartref.

O ran y staff sy'n gweithio mewn rolau rheng flaen ac yn delio'n uniongyrchol â'r cyhoedd, rydym wedi darparu mwy na chwarter miliwn o ddarnau o gyfarpar diogelu personol (PPE) i'w cadw'n ddiogel wrth gyflawni eu dyletswyddau.   

Mae gennym hefyd gynllun profi blaenoriaethol ar waith i sicrhau bod y staff hyn a'u teuluoedd yn gallu cael mynediad at brofion y diwrnod nesaf os ydynt yn dechrau arddangos symptomau Covid-19. I unrhyw un, sy'n gweithio mewn unrhyw rôl, sy'n teimlo efallai ei fod yn dangos symptomau Covid-19 mae canllawiau ar beth dylid ei wneud. 

Er mwyn cydnabod ymdrechion penodol rhai grwpiau o staff a'r amser digyffelyb hwn, rwy'n falch iawn o allu dweud ein bod wedi cynnig codi tâl dros dro gan 10% i rai staff, megis gweithwyr gofal yn ein tîm Gwasanaethau Cymdeithasol yn ogystal â'r rhai sy'n gwneud y rolau rheng flaen mwyaf heriol yn y Gwasanaethau Cymdogaeth, lle nad yw defnyddio mesurau ymbellhau cymdeithasol bob amser mor bosibl ag y mae i gydweithwyr eraill.    

Ni yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gymryd camau o'r fath, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cael ein hunain mewn sefyllfa lle byddwn wedi arwain y sector Llywodraeth Leol a gofal i ailystyried sut rydyn ni'n gwobrwyo'r rhai sy'n gwneud y gwaith hanfodol hwn yn ystod cyfnod mor heriol.

Mae hwn wrth gwrs yn gyfnod anodd iawn i bawb. Beth bynnag yw eich rôl yn y sefydliad, mae’r pandemig Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar ein bywydau ni i gyd. Er bod y gwaith y mae pob un ohonom yn ei wneud ar ran y Cyngor yn hanfodol bwysig i gefnogi ein cymunedau, rhaid i ni bob amser roi’r flaenoriaeth i ofalu amdanom ein hunain ac am ein hanwyliaid.   

Er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cael cymorth os oes ei angen arnynt, rydym wedi sicrhau bod Care First ar gael i bob aelod staff o hyd, ac mae gwasanaethau cwnsela a chymorth ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith gan ein tîm Iechyd Galwedigaethol ar gyfer rhai grwpiau o staff. 

Byddwn hefyd yn argymell bod staff yn cymryd amser i edrych ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, y mae’r tîm cyfathrebu wedi bod yn rhannu llawer o wybodaeth arnynt am sut y gall preswylwyr aros yn ddiogel ac yn iach, a sut gall rhieni ddiddanu eu plant, wrth gadw at ganllawiau cyfredol y llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol. Mae'r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd yn dathlu ac yn cydnabod gwaith ein staff a'n partneriaid a'r gwir wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i'n cymunedau. 

Rwy'n gobeithio bod y diweddariad hwn wedi'ch atgoffa o'r hyn sydd ar gael i chi os oes ei angen, a gallaf eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod ein staff yn ddiogel a bod gwerth eu gwaith yn cael ei gydnabod.    

Rwyf wedi ysgrifennu atoch i gyd gyda sawl enghraifft yn ddiweddar o'r gwaith sy'n cael ei wneud a hoffwn ailadrodd unwaith eto nad ydw i erioed wedi bod yn fwy balch o weithio i Gyngor Bro Morgannwg a gweithio gyda chymaint o weision cyhoeddus gwych, ymroddedig nag rydw i ar hyn o bryd.  

Diolch unwaith yn rhagor am eich ymdrechion. 

Rob Thomas

Rheolwr Gyfarwyddwr