Staffnet+ >
286,000 o eitemau cyfarpar diogelwch personol wedi eu rhoi i staff y rheng flaen mewn ymateb i Covid-19
286,000 o eitemau cyfarpar diogelwch personol wedi eu rhoi i staff y rheng flaen mewn ymateb i Covid-19
Dydd Iau 16 Ebrill
Yn ystod y pedair wythnos diwethaf, mae mwy na chwarter miliwn o eitemau cyfarpar diogelwch personol wedi eu dosbarthu i staff.
Gyda llawer o aelodau staff y Cyngor ar y rheng flaen yn yr ymateb i bandemig Covid-19, mae’r tîm Cynllunio ar gyfer Argyfwng wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod ganddynt yr holl gyfarpar diogelwch sydd ei angen arnynt.
Mae'r 286,325 o eitemau a roddwyd i staff Gwasanaethau Cymdeithasol, gweithwyr rheng flaen yn adran yr Amgylchedd a Thai, a gweithwyr allweddol mewn llawer o dimau eraill yn cynnwys:
- 18,530 pâr o gogls;
- 84,500 o fygydau wyneb;
- 82,925 pâr o fenig; a
- 96,400 o ffedogau.
Yn ogystal â hyn, mae 1039 o litrau o gel gwrthfacterol wedi eu dosbarthu i amddiffyn gweithwyr allweddol a thimau rheng flaen.
Mae’r cyfarpar diogelwch personol yn cael ei gaffael gan nifer o gwmnïau ac mae’n galonogol gweld rhai busnesau lleol yn ychwanegu eu cyfarpar eu hun at stoc y Cyngor.
Er enghraifft, rydym wedi cael rhodd o gyfarpar diogelwch personol gan gwmni gweithgynhyrchu lleol, Cabot. Mae'r gogls, y sbectolau, y mygydau a'r trosesgidiau a dderbyniwyd yn cael eu dosbarthu i staff rheng flaen allweddol o'r swyddfeydd dinesig heddiw.
Mae'r Cyngor hefyd yn helpu i gefnogi busnesau lleol sydd wedi newid eu gweithrediadau i weithgynhyrchu cyfarpar diogelwch personol, fel distyllfa jin Castell Hensol sydd wedi gohirio ei hagoriad dros dro i gefnogi'r gwaith o gynhyrchu gel gwrthfacterol ar gyfer y GIG a gweithwyr allweddol.
Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr: "Diogelu ein staff rheng flaen yw ein prif flaenoriaeth wrth iddynt roi eu hiechyd a'u lles eu hunain mewn peryg er mwyn parhau i ddarparu ein gwasanaethau mwyaf hanfodol. Ni allaf ddiolch digon iddynt am eu gwaith caled a'u hymroddiad.
"Rydym yn falch o allu gweithio gyda busnesau lleol, a’u cefnogi, yn ystod y cyfnod anodd hwn, wrth roi blaenoriaeth i amddiffyn ein staff rheng flaen."
Os oes gan unrhyw aelod o staff gysylltiadau mewn busnesau lleol a allai ein cefnogi ar yr adeg hon, mae croeso i chi gysylltu â'r manylion isod.