Ble i gael help yn y Fro
Wrth i gost ynni, tanwydd a biliau cartref godi, efallai y byddwch yn ei chael yn anoddach talu'ch biliau. Mae nifer o ffyrdd y gallwch gael help ym Mro Morgannwg:
Talu biliau
Cyngor ar Bopeth Caerdydd a’r Fro
Mae Cyngor ar Bopeth yn elusen annibynnol sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol a diduedd am ddim i drigolion Dinas a Sir Caerdydd a Bro Morgannwg. Maent yn cynnig cymorth gyda dyled, budd-daliadau, tai a mwy.
Cyngor ar Bopeth Caerdydd a’r Fro
Rhoi bwyd ar y bwrdd
Pod Bwyd Penarth
Gall unrhyw un fynd i’r Pod Bwyd ym Mhenarth i gael nwyddau tun a darfodus, nwyddau ymolchi a chynhyrchion hylendid ar sail talu’r hyn y gallwch ei fforddio.
Mae'r Pod Bwyd yn gweithredu o gynhwysydd llongau wedi'i addasu yn ystâd St Luke. Mae ar agor ar ddydd Llun ac ar ddydd Gwener rhwng 2pm a 4pm ac ar ddydd Mercher rhwng 3.30pm a 5.30pm.
Gwybodaeth am Bod Bwyd Penarth
Banciau bwyd
Mae hefyd nifer o fanciau bwyd ym Mro Morgannwg. Os ydych yn cael trafferth talu am fwyd, dysgwch sut i gael help gan fanc bwyd.
Urddas Mislif
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn cefnogi teuluoedd i sicrhau urddas mislif i fenywod a merched o gartrefi incwm isel.
Mae cymorth parhaus wedi'i roi ac mae cynhyrchion wedi bod ar gael drwy ysgolion, y tîm 15plus, y gwasanaeth lles ieuenctid a phartneriaid cymdeithasau tai amrywiol.
Mae partneriaethau gyda mudiadau’r trydydd sector, gan gynnwys banciau bwyd, canolfannau cymunedol, canolfannau teulu ac ati, wedi cael eu rhoi ar waith i sicrhau mynediad i gynhyrchion mislif, yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol bosibl.
Gweld canllawiau a gweithgareddau i gefnogi eich iechyd a lles.
Eich Lles