Lleihau’r swm rydych yn ei wario

Er bod biliau a phrisiau bwyd yn parhau i godi, mae rhai ffyrdd y gallwn leihau’r swm rydym yn ei wario.

Rheoli eich treuliau

Mae cost i bopeth mewn bywyd. Dyna pam mae'n bwysig sicrhau eich bod yn adolygu'ch treuliau'n rheolaidd er mwyn sicrhau nad ydych yn talu gormod.

Cyfleustodau

Er na ellir arbed llawer o arian ar filiau cyfleustodau oherwydd capiau prisiau, mae rhai ffyrdd y gallwch leihau eich bil.

Awgrymiadau ar gyfer lleihau eich biliau trydan a nwy

  • Gwnewch yn siŵr bod eich tŷ wedi'i inswleiddio'n dda a’i fod yn ynni-effeithlon.

  • Ceisiwch osgoi gadael dyfeisiau yn y modd segur, gan fod hyn yn gwastraffu trydan.

  • Os ydych chi'n cael trafferth talu eich taliadau ynni, siaradwch â'ch darparwr ynni i gael cymorth. Mae British Gas Energy Trust hefyd yn cynnig cymorth ar gyfer dyledion ynni.

  • Ewch i wefan y Money Saving Expert i weld awgrymiadau ar gymharu bargeinion ynni

Awgrymiadau ar gyfer lleihau eich biliau dŵr

  • Os mai dim ond ychydig o bobl sydd gennych yn eich cartref, mae'n aml yn rhatach cael mesurydd dŵr.

  • Mae Dŵr Cymru yn cynnig gostyngiadau i bobl ar incymau is ac i'r rheiny ag anableddau sydd angen defnyddio mwy o ddŵr.

  • Os oes gennych ddyled i Dŵr Cymru, mae cymorth ar gael. Cysylltwch â Dŵr Cymru i drafod eich opsiynau gyda nhw.  

 

Rhent a morgeisi

  • Os ydych yn cael trafferth gyda'ch rhent ac yn byw mewn eiddo cyngor, gall y tîm cyngor ariannol helpu. Yn yr un modd, os ydych yn rhentu gan gymdeithas dai, byddwch yn gallu cael cymorth gan dîm cynhwysiant ariannol neu dîm gyngor ariannol.

  • Gall tenantiaid preifat ofyn am help gan y tîm cefnogi pobl. Gall gweithiwr cymorth eich helpu gyda'ch gwaith papur a'ch helpu i ddelio â materion ariannol eraill.

  • Os ydych yn cael trafferth gyda thaliadau eich morgais, siaradwch â'ch benthyciwr morgeisi. Efallai y bydd yn gallu newid y math o ad-daliadau ar gyfer eich morgais.

 

Siopa bwyd 

Cyllidebu

Mae cadw cost siopa bwyd wythnosol mor isel â phosibl yn llawer haws os ydych wedi penderfynu cyllideb cyn mynd i’r siop.

Mae llawer o offer cynllunio cyllideb am ddim ar gael ar-lein i greu cyllideb sy'n gweithio i chi.

Gwybodaeth am gyllidebu

Siopa o gwmpas

Er mwyn arbed arian ar y siopa bwyd wythnosol, mae'n werth siopa o gwmpas i ddod o hyd i'r prisiau a'r bargeinion gorau.

Prynu Brandiau Rhatach

Os ydych fel arfer yn prynu brand adnabyddus, beth am brynu brand sydd ychydig yn rhatach? Os ydych fel arfer yn prynu brand manwerthwr, beth am brynu’r brand rhataf? Os ydych yn dal i fod yn hapus gyda'r ansawdd, parhewch i brynu’r brand rhatach!

Gallwch ddysgu mwy am Brynu Brandiau Rhatach ar wefan y Money Saving Expert.

 

Gwasanaethau a thanysgrifiadau

Boed yn fand eang, yn becynnau teledu, neu’n yswiriant, mae digon o arian i’w arbed ar amrywiaeth o wasanaethau a thanysgrifiadau.

Dod o hyd i'r fargen orau

  • Mae gwefannau Cymharu Prisiau yn ffordd wych o ddod o hyd i'r gwasanaeth â’r pris gorau sy'n addas i chi

  • Nodwch mewn dyddiadur pryd y bydd eich pecynnau'n dod i ben fel y gallwch chwilio o gwmpas i gael y bargeinion newydd gorau.  

  • Ewch i wefan y Money Saving Expert i ddod o hyd i ganllawiau ac offer i'ch helpu i gael y bargeinion gorau ar eich pecynnau band eang a'ch contractau ffôn

 

Manwerthu 

Mae manwerthwyr poblogaidd yn cynnig amrywiaeth o fargeinion i gwsmeriaid. Gallwch ddod o hyd i restr o fargeinion cyfredol ar wefan y Money Saving Expert.