Lle bo’n berthnasol mae'r Cyngor yn gweithredu cynllun cronfa geir ar gyfer teithio busnes. Lle nad yw'n addas neu bosibl defnyddio cronfa geir, gall milltiroedd car lleol neu gostau teithio fod yn berthnasol, fel y penderfynir gan y Cyngor.
Mae’r Cyngor wedi gweithredu strwythur talu a graddio lleol ynghyd ag amodau a thelerau cysylltiedig ar gyfer pob swydd o fewn cylch gwaith llawlyfr Statws Sengl / NJC ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol. Bydd darpariaethau’r llawlyfr Cenedlaethol yn berthnasol pan fo’r cydgytundeb lleol yn fud neu pan nad oes polisi / gweithdrefn leol arall neu amodau a thelerau lleol eraill yn bodoli.
Bydd canfasio aelodau'r Cyngor, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn anghymwyso'r ymgeisydd. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gyflogwr cyfle cyfartal, gwneir holl apwyntiadau ar sail gallu. Croesawir ceisiadau ar gyfer rhannu gwaith yn ogystal a gweithio llawn amser. Croesawir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Ffurflenni cais cyflawn yn unig a dderbynnir.