Mae slipiau cyflog ar-lein newydd bellach yn fyw
Bydd yr holl weithwyr sydd â chyfeiriadau e-bost gwaith neu'r rhai sydd wedi darparu cyfeiriadau e-bost personol bellach wedi derbyn e-bost Croeso i fewngofnodi a gweld eu slipiau cyflog.
Mewngofnodi i Epay
Bydd angen eich rhif gweithiwr arnoch i ymuno â'r wefan. Nid yw hyn wedi'i gynnwys yn yr e-bost am resymau diogelwch. Gofynnir i chi newid eich cyfrinair a dewis cwestiwn ac ateb diogelwch.
Anfonir llythyrau at yr holl staff nad oes ganddynt e-bost gwaith ac nad ydynt wedi darparu cyfeiriad e-bost personol. Bydd y llythyr yn cynnwys y cyfrinair dros dro a manylion ar sut i fewngofnodi i'r porth.
Ar ôl mewngofnodi i'r system, gall staff ychwanegu cyfeiriad e-bost neu newid y cyfeiriad e-bost sydd eisoes yn y system trwy'r dudalen manylion Fy Nghyfrif.
Beth yw Epay?
Mae E-pay yn borth ar-lein lle gall holl weithwyr Cyngor y Fro weld eu slipiau cyflog.
Mae'r Porth yn ffordd ddiogel o dderbyn eich slip cyflog ac un a fydd yn cael ei roi i chi mewn modd mwy amserol. Byddwch yn gallu:
-
Gweld eich slip cyflog hyd at dri diwrnod cyn y diwrnod talu;
-
Cadw ac argraffu eich slipiau cyflog o'r porth;
-
Gallwch eu gweld unrhyw bryd o unrhyw ddyfais sy'n gallu cysylltu â'r rhyngrwyd.
Bydd y newid i slipiau cyflog ar-lein yn dod i rym ar gyfer pob gweithiwr yn 2020. Nid oes unrhyw newid i'r dyddiad y cewch eich talu. Bydd y newid hwn yn ein helpu i:
-
Rheoli eich gwybodaeth cyflog mewn ffordd fwy diogel;
-
Gwella effeithlonrwydd gweinyddu;
-
Lleihau'r defnydd o bapur a gwneud y broses yn fwy ecogyfeillgar.
Tiwtorial Croeso
Croeso i fideo E-pay
Cwestiynau cyffredin
Edrychwch ar y cwestiynau cyffredin am y porth e-Pay newydd.
Cwestiynau cyffredin
Ymholiadau
Unrhyw ymholiadau eraill am y system newydd, ebostiwch y tîm yn: