Taith Gerdded Elusennol Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid y Fro 

 

yos-logo

Mae Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid y Fro wedi gosod her i'w hunain i gwblhau 2,000,000 o gamau rhwng 13-26 Chwefror.

Byddan nhw'n cerdded y llwybr 1000 milltir yn rhithwir o Lands End i John O'Groats, gyda tharged £1,000 i’w godi - £1 am bob milltir!

Mae'r tîm yn gobeithio codi arian ac ymwybyddiaeth o Ymddiriedolaeth Trussell sy'n cefnogi rhwydwaith cenedlaethol o fanciau bwyd, yn darparu bwyd a chefnogaeth brys i bobl mewn argyfwng, ac yn ymgyrchu dros newid i roi terfyn ar yr angen am fanciau bwyd.

Mae hefyd yn gyfle gwych i annog lles, a'n hysgogi - gan fod angen yr anogaeth honno ar rai ohonom (nid pawb) - i gynyddu ein camau dyddiol.

Mae GTI y Fro’n codi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Trussell (justgiving.com)

Dros gyfnod o bythefnos byddwn yn cerdded yn unigol ond mae cynlluniau ar y gweill hefyd i gwrdd â'n gilydd amser cinio a dros y penwythnos hefyd a chael ein teuluoedd yn rhan o’r gweithgareddau.

Tîm bach ydyn ni, ond rydym yn edrych ymlaen at gwblhau’r her hon gyda'n gilydd, a bydd cefnogaeth, geiriau o anogaeth neu rodd yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.

Diweddariad Dydd Llun 20 Chwefror

Mae'r tîm ar y pwynt hanner ffordd ac wedi cwblhau 1,107,581 o gamau trawiadol ac ar y trywydd iawn i gwblhau'r 2,000,000 llawn!


Cyfarfu'r ddau ddydd Sul diwethaf yn Llyn Cosmeston i ddod at ei gilydd a chael ychydig o gamau ychwanegol i mewn dros y penwythnos.

yos team

 

Ynglŷn ag Ymddiriedolaeth Trussell

Gweledigaeth Ymddiriedolaeth Trussell yw Prydain nad oes angen banciau bwyd arni.

Rydyn ni'n dweud hyn gan nad yw'n iawn fod unrhyw un methu fforddio ei fwydo ei hun.  Dyna pam rydyn ni'n gweithio tuag at ddyfodol cyfiawn, tosturiol, lle na ddylai unrhyw un orfod defnyddio banc bwyd i oroesi.

Mae ein gweledigaeth yn uchelgeisiol, ond rydym yn gwybod ei bod yn bosibl os gwnawn ni i gyd weithio gyda’n gilydd.  Gallwn greu dyfodol lle na fydd unrhyw un yn llwgu a lle na fyddai unrhyw un yn caniatáu i hynny ddigwydd – pan fyddwn yn Newid Trwy Gydweithio.

#NewidTrwyGydweithio 

Food Bank