Cartrefi i Wcráin

 

Mae Tîm Cymorth Wcráin yn gobeithio denu lletywyr newydd ar gyfer aelwydydd Wcráin sydd wedi cyrraedd Cymru drwy’r cynllun nawdd unigol Cartrefi i Wcráin neu'r cynllun noddwyr, ar ôl ffoi rhag y gwrthdaro parhaus yn Wcráin.

Fel lletywyr, gofynnir i chi ymrwymo i 6 mis o letya a bydd gennych hawl i daliadau diolch £350 dewisol misol am y cyfnod y mae eich gwesteion gyda chi.

Caiff pob lletywr weithiwr cymorth ffoaduriaid i gynorthwyo gydag unrhyw faterion, cyngor neu arweiniad mewn perthynas â'r broses letya.  Bydd y gweithiwr cymorth hefyd yno i'ch gwestai/gwesteion o Wcráin i’w g/cefnogi i integreiddio i fywyd ym Mro Morgannwg.

Mae rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth a gynigir gan Dîm Cymorth Wcráin yn y ddolen isod, gan gynnwys rhestr o gwestiynau cyffredin a dyddiadau / amseroedd ein sesiynau cymorth galw heibio rheolaidd, yn ogystal â dolen at ganllawiau lletywyr / noddwyr Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Cartrefi i Wcráin sy'n ddefnyddiol iawn.  

Cymorth am Wcrain

Gwefan .Gov

Mae cymorth hefyd ar gael gan Cyfiawnder Tai Cymru sydd wedi cael ei gontractio gan Llywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth benodol i letywyr ac mae’n cynnig hyfforddiant 'Cyflwyniad i Letya' sydd wedi cael ei lywio'n bennaf gan brofiadau lletywyr yng Nghymru ers i'r cynllun ddechrau.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer sesiwn hyfforddi yn ogystal ag am gymorth ychwanegol a gynigir yma ar eu gwefan.

If you or anyone you know are interested in hosting and would like to have an chat about the process please contact the Ukrainian support team on 

Os ydych chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod â diddordeb mewn lletya ac yn dymuno cael sgwrs am y broses cysylltwch â thîm cymorth Wcráin ar ukrainiansupport@bromorgannwg.gov.uk.