
Arolwg Staff 2022
Bydd yr Arolwg Staff yn rhedeg o 30 Mehefin i 12 Awst 2022.
Dweud eich dweud
Mae’n agored i holl staff Cyngor Bro Morgannwg, p'un a ydych yn gweithio mewn rôl rheng flaen, mewn swyddfa neu gartref, neu yn un o'n hysgolion.
Yr arolwg yw'r cyfle diweddaraf i staff ddweud eu dweud i ddylanwadu ar sut bydd y Cyngor yn gweithio yn y dyfodol. Yn 2020 a 2021 cynhaliodd y Cyngor arolygon lles staff.
Diben hyn oedd helpu i ddeall effaith y pandemig a'r newidiadau i'n holl waith ar staff.Mae'r arolwg eleni eto'n cynnwys cwestiynau am les staff. Mae rhai o'r rhain yr un fath â'r hyn a ofynnwyd o'r blaen i helpu i fesur yr hyn sydd wedi gweithio ac i nodi'r meysydd hynny lle y gallem barhau i wneud yn well.
Mae'r arolwg yn cynnwys:
- Iechyd a lles
- Uwch arweinwyr
- Cymorth rheolwyr llinell
- Cyfathrebu
- Amodau gweithio
Llenwch Arolwg Staff 2022 nawr
Pam cymryd rhan?
Anogir yr holl staff i gwblhau'r arolwg. Po fwyaf o adborth a dderbynnir, y gorau y gallwn wneud penderfyniadau fel sefydliad yn y dyfodol. Bydd hefyd yn helpu i lywio ein gweithgareddau ymgysylltu â staff yn y dyfodol. Er y bydd yr arolwg yn gofyn am eich maes gwasanaeth a rhai cwestiynau monitro cydraddoldeb, mae'r holl ymatebion yn ddienw.
Llenwch Arolwg Staff 2022 nawr
Gellir cwblhau'r arolwg ar unrhyw liniadur neu ffôn symudol sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd.
Bydd cydweithwyr heb fynediad i ddyfeisiau TGCh corfforaethol yn gallu sganio codau QR mewn gwahanol leoliadau yn y Fro.
Bydd sesiwn galw heibio hefyd yn cael ei chynnal yn Nepo’r Alpau. Os oes gennych gwestiynau am yr arolwg, siaradwch â'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf, neu e-bostiwch staffsurvey@valeofglamorgan.gov.uk.
Eich Iechyd