Gwirfoddoli: Gwnewch Gwahaniaeth
Ydych chi erioed wedi ystyried cymryd peth amser i wirfoddoli?
Yn gynharach yr wythnos hon, daeth sefydliadau ac elusennau lleol ynghyd â Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg (GGM) yng Nghanolfan Celfyddydau Memo yn y Barri ar gyfer Ffair Wirfoddoli GGM i arddangos rhai o’r ffyrdd y gall staff gymryd rhan i gael effaith gadarnhaol yn ein cymunedau.
Roedd y digwyddiad yn cynnig cyfle i fynychwyr dderbyn cyngor a chefnogaeth ar sut i ddechrau gwirfoddoli yn ogystal ag amser ar gyfer cyfleoedd rhwydweithio ychwanegol.
Mae GGM yn ddarparwr blaenllaw o wasanaethau gwirfoddoli yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar Fro Morgannwg a’r ardaloedd cyfagos.
Mae gwirfoddoli yn cynnig manteision di-rif - nid yn unig ydych chi'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich maes, ond rydych chi hefyd yn gwella'ch sgiliau ac yn cael profiadau gwerthfawr.
Os na chawsoch gyfle i fynychu’r ffair wirfoddoli, mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan o hyd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GGM neu cysylltwch â’r tîm:
- enquiries@gvs.wales
- 01446 741706
Mae Polisi Gwirfoddoli Gweithwyr Corfforaethol y Cyngor yn caniatáu i staff wirfoddoli yn ystod oriau gwaith gyda'r cyfle i ddod i adnabod rhai o'n sefydliadau partner yn ogystal ag ymrwymo amser ar gyfer achosion elusennol.