Welsh Skills Survey welsh

Cymerwch yr Arolwg Sgiliau Cymraeg newydd!

Mae wedi bod yn sbel ers inni gynnal asesiad diwethaf o sgiliau iaith Gymraeg staff, felly rydym yn diweddaru ein cofnodion

Mae Safonau'r Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol i ni gynnal asesiad o sgiliau Cymraeg staff. Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i gynllunio a hyrwyddo cyrsiau Cymraeg ac asesu galluoedd Cymraeg presennol i sicrhau y gallwn ddarparu ein gwasanaethau i'r rhai sydd eu hangen yn Gymraeg.

Cymerwch yr Arolwg

Gallwch hefyd ddiweddaru eich sgiliau Cymraeg ar Fusion. Mewngofnodwch, ewch i Manylion Personol, ac yna dewiswch yr eicon pensil i'w olygu. Cyfeiriwch at Fframwaith Asesu Sgiliau Cymraeg i wneud yn siŵr eich bod yn dewis y lefel sgiliau briodol ar gyfer eich gallu.

Os nad ydych yn hollol siŵr ar lefel eich sgiliau, gallwch hefyd edrych i'r Fframwaith Asesu Sgiliau am arweiniad.

Camau nesaf

Edrychwch ar yr Hyb Cymraeg ar Staffnet+ am bopeth Cymraeg – gwybodaeth am ddysgu Cymraeg, defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle, Safonau'r Gymraeg a sut maen nhw'n effeithio ar y gwaith rydyn ni'n ei wneud, cyfieithu Cymraeg, a digwyddiadau sydd i ddod.

Ewch i'r dudalen Iaith Gwaith ar yr Hyb i gofrestru ar gyfer cwrs Cymraeg ac am fanylion boreau coffi a sesiynau magu hyder i hybu eich sgiliau Cymraeg!