Staffnet+ >
Dros gant yn mynychu gweithdai teuluoedd y Fro
Dros gant yn mynychu gweithdai teuluoedd y Fro
Mynychodd mwy na 150 o bobl gyfres o weithdai yng Nghanolfan Celfyddydau Memo yn y Barri fel rhan o waith parhaus i ymgynghori ar y gwasanaethau sy’n cefnogi babanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd i fynd i’r afael â thlodi yn y Fro.
Daeth staff o bob rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol, Dysgu a Sgiliau a’r trydydd sector i ddwy sesiwn ymgysylltu i drafod nifer o wasanaethau – gan gynnwys Gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf, Cymorth Cynnar, Dechrau’n Deg, YJESS, Cefnogi Pobl, Cymunedau am Waith a CELT+.
Rhoddodd y digwyddiad gyfle i staff rannu eu profiadau o ymgysylltu â’r gwasanaethau hyn, helpu i ledaenu ymwybyddiaeth o’r cymorth amrywiol y gall y gwasanaethau hyn ei gynnig i drigolion y Fro, a sut i ddeall yn well unrhyw gyfleoedd i wella yn y dyfodol.
Os colloch chi'r cyfle i fynychu'r gweithdai hyn, mae cyfle rhwydweithio arall ar y gweill hefyd gyda Teuluoedd yn Gyntaf ar 19 Chwefror yng Nghanolfan Celfyddydau Memo.
Mae’r digwyddiad yn gyfle i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd ym Mro Morgannwg ddarganfod rhai o’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt yn yr ardal.