Diwrnod Canser y Byd 2025
Mae hi’n Ddiwrnod Canser y Byd heddiw a’r thema ar gyfer eleni yw Unedig gan yr Unigryw.
Mae gan bawb anghenion unigryw, safbwyntiau unigryw, a stori unigryw i'w hadrodd - ac mae pobl sy'n cael eu cyffwrdd gan ganser yn unedig i weld canser yn cael ei drin yn llwyddiannus ac i fyw bywydau gwell gyda chanser.
Bydd tua un o bob pump o bobl yn datblygu canser yn ystod eu hoes, sy'n golygu bod pawb yn adnabod rhywun sydd wedi'i heffeithio'n uniongyrchol gan ganser, neu y bydd canser yn effeithio arnynt.
Mae ymgyrch eleni yn ceisio annog cymunedau i weithredu dros ofal canser sy’n canolbwyntio ar bobl.
Yn y Fro, mae ein gweithwyr gofal yn darparu cymorth hanfodol i bobl sydd angen gofal yn y cartref – gan gynnwys pobl sy’n byw gyda chanser.
Mae hyn hefyd yn cynnwys cynorthwyo gyda gofal lliniarol i'r rhai sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes.
Mae hyn yn golygu y gall pobl dderbyn gofal diwedd oes yn gyfforddus gartref, yn hytrach nag mewn ysbyty.
I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Canser y Byd 2025, cliciwch yma.