Ydych chi wedi ystyried Bywydau a Rennir?

Mae Bywydau a Rennir yn gynllun sy’n helpu oedolion agored i niwed i gael cymorth o fewn amgylchedd teuluol diogel.

Mae Bywydau a Rennir Bro Morgannwg wedi’i sefydlu ers dros 20 mlynedd – gan gefnogi unigolion ag anghenion amrywiol gan gynnwys anableddau dysgu, anableddau corfforol, awtistiaeth, problemau iechyd meddwl a dementia.

Mae Gofalwyr Bywydau a Rennir yn agor eu cartrefi teuluol eu hunain i’r person sydd angen cymorth.

Y nod ar gyfer y person sy'n cael ei gefnogi yw byw ei fywyd gorau, ei ffordd, yn ei gymunedau ei hun tra hefyd yn hyrwyddo annibyniaeth ac ennill sgiliau newydd.

Dod yn Ofalwr

Oes gennych chi ystafell wely sbâr ac a ydych chi'n chwilio am gyfle sy'n newid bywyd i gefnogi rhywun yn eich cartref eich hun?

Beth am ymuno â Bywydau a Rennir a dod yn Ofalwr?

Mae Bywydau a Rennir yn recriwtio gofalwyr o bob cefndir. Mae'r gwasanaeth yn croesawu unrhyw oedran neu gefndir, pobl sengl, cyplau a theuluoedd gyda neu heb blant.

Maent hefyd yn croesawu atgyfeiriadau gan bob tîm yn y gwasanaethau cymdeithasol a allai gynnig lleoliad addas.

Dweud Eich Dweud

Yn ddiweddar hefyd, cynhaliodd y cynllun ddau ddigwyddiad Dweud Eich Dweud a oedd yn galluogi pobl sy'n ymwneud â'r cynllun i rannu eu barn am y gwasanaeth a rhoi adborth.

Shared Lives Have Your Say Event

Daeth nifer dda i’r digwyddiadau yn y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr ac roedd yn gyfle gwych i drafod sut mae Bywydau a Rennir yn gweithio i’r bobl y mae’r gwasanaeth yn eu cefnogi ar hyn o bryd a ffyrdd o wella’r gwasanaeth yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am Cysylltu Bywydau neu sut i ddod yn Ofalwr Bywydau a Rennir, cliciwch yma.

Shared Lives Banner 2024