Ydych chi wedi clywed am Genhadaeth ar Waith?

Mae arweinwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru wedi’u gwahodd i ddod at ei gilydd ar gyfer digwyddiad arbennig yng nghanol Caerdydd.

Nod y digwyddiad ‘Cenhadaeth ar Waith: o Weledigaeth i Realaeth’, a drefnir gan Gronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yw cynnull arweinwyr, penderfynwyr, a chynrychiolwyr y sector cyhoeddus i archwilio a thrafod rôl arloesi a arweinir gan genhadaeth wrth fynd i’r afael â heriau cymdeithasol mawr.

Missions in Action Graphic

Bydd y digwyddiad yn annog deialog agored a’i nod yw ysbrydoli cydweithio, rhannu gwersi a ddysgwyd, a dangos manteision ymarferol mabwysiadu dulliau a arweinir gan genhadaeth i feithrin newid cadarnhaol.

Beth dull yw Cenhadaeth ar Waith?

Mae arloesi sy'n canolbwyntio ar genhadaeth yn ddull sy'n nodi'r heriau mwyaf enbyd mewn cymdeithas ac yn eu rhannu'n gamau a nodau pragmatig ac sy'n ceisio darparu gwerth masnachol a chyhoeddus.

Bydd siaradwyr ar ran Cyngor Caerffili a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad i siarad am sut y maent wedi mynd i’r afael â’u heriau eu hunain, y dull a fabwysiadwyd ganddynt, y gwersi a ddysgwyd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 21 Chwefror rhwng 09:30 - 14:00 yn Cornerstone yng nghanol dinas Caerdydd.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, cliciwch yma.