Canmoliaeth i'r Hive Guys yn dilyn pryd o fwyd llwyddiannus
Mae grŵp o bobl ifanc o’r Hive Guys – prosiect sy’n cael ei redeg gan Dîm Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg – wedi cynnal pryd o fwyd arbennig ar gyfer eu cymuned leol.
Mae Tîm y Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc yn y Fro i ddatblygu sgiliau trosiannol a fydd yn eu cefnogi yn eu bywydau fel oedolion.
Mae'r Hive Guys wedi gweithio ar nifer o gyfleoedd achrededig, ond ar hyn o bryd prif ffocws y grŵp yw cynyddu ymgysylltiad cymunedol â thrigolion sydd wedi defnyddio Warm Spaces yn flaenorol.

Fe wnaethon nhw ddylunio bwydlen gyfan ar gyfer y noson - a oedd yn cynnwys coctel corgimwch, cacennau pysgod a phastai afal ar gyfer pwdin.
Roedd rhestr o weithgareddau hwyliog hefyd ar yr agenda, gan gynnwys gwersi plygu napcyn a sesiwn carioci.
Trwy gyllidebu, coginio, a chynllunio ar gyfer y noson, datblygodd y bobl ifanc sgiliau bywyd gwerthfawr tra hefyd yn cysylltu â'r Pum Ffordd at Les - Bod yn Egnïol, Cysylltu, Cymerwch Sylw, Dal ati i Ddysgu, a Rhoi.
Y tu hwnt i'r pryd, nod y prosiect oedd meithrin cyfeillgarwch rhwng cenedlaethau, gwella dealltwriaeth, a chreu sgyrsiau cadarnhaol sydd hefyd yn cefnogi atal dementia yn y gymuned.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Hive Guys a gwaith Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, cliciwch yma.